Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr ffisiotherapi yn cefnogi’r hanner marathon

18 Hydref 2018

Bu myfyrwyr ffisiotherapi o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn rhoi o’u hamser a’u sgiliau yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 7 Hydref, lle rhedodd 25,000 o bobl ar hyd cwrs 13 milltir.

Fe wnaeth cyfanswm o 85 o fyfyrwyr ffisiotherapi, o dan oruchwyliaeth 6 aelod o staff, gefnogi hanner marathon Caerdydd trwy gynnig tyliniad i redwyr er mwyn eu helpu i ddod at eu hunain ar ôl y ras. Cafodd y tyliniadau eu rhoi yn y babell gyffredinol i’r cyhoedd, ar gyfer Elusen Barnardos ac i’r rheiny oedd yn rhedeg dros Brifysgol Caerdydd. Rhoddwyd 20 munud o dylino, a gafodd ei werthfawrogi’n fawr, yn rhad ac am ddim i tua 450 o redwyr o bob gallu a chefndir. Yn cynnig profiadau bywyd go iawn i’r myfyrwyr.

Rhoddodd nifer o fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr ffisiotherapi cyn y ras a thriniaeth meinweoedd meddal i 32 o athletwyr elitaidd y Gymanwlad yn yr wythnos yn arwain at yr Hanner Marathon.

Dywedodd Tony Everett, darlithydd ffisiotherapi, ‘Rhoddodd pob un o’r 85 o fyfyrwyr o’u hamser, a gweithio’n ddiflino trwy gyfnod prysur iawn, gan gyd-dynnu’n wych fel tîm. Fe wnaethon nhw fwynhau’r digwyddiad, a gallan nhw edrych ‘nôl arno fel profiad dysgu cadarnhaol ac yn gyfle gwych i ymgysylltu â chymuned Caerdydd a thu hwnt!’

Rhannu’r stori hon