Ewch i’r prif gynnwys

Estroniaid, Angenfilod a Dewiniaid

17 Hydref 2018

Arrival film
'Arrival' with Amy Adams

Mae clwb llyfrau enwog y Brifysgol yn ôl am dymor o ffantasi a ffuglen wyddonol, o’r llwyddiannau adnabyddus diweddaraf i waith gothig arloesol.

Yr hydref hwn, mae’r gyfres sy’n rhad ac am ddim yn cynnig safbwyntiau newydd ar Mary Shelley, yr awdures gothig wych a osododd y safon ar gyfer ffuglen wyddonol gyda Frankenstein, The Wizard of Earthsea, y ffuglen glasurol boblogaidd i blant, a Story of Your Life, y nofel fer sydd wedi ennill gwobrau ac a gafodd ei gwneud yn ffilm Hollywood o dan y teitl Arrival.

Digwyddiadau Hydref 2018

Ffuglen wyddonol gyfredol sy’n agor tymor yr hydref gyda Story of Your Life/Arrival ddydd Llun 22 Hydref.

Mae nofel fer Ted Chaing o 1998 sydd wedi ennill gwobrau, ar addasiad ffilm ohoni o 2016 Arrival (Denis Villeneuve) sydd wedi ennill gwobr Academi, yn dilyn yr ieithydd a’r prif gymeriad, Dr Louise Banks, sy’n mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y gorffennol a’r dyfodol wrth i fodau estron lanio ar draws y byd. Mae gallu Banks i gyfathrebu gydag ymwelwyr bydol yn dyfod yn hanfodol i adweithiau pŵer y byd.

Yn ôl yr arfer, bydd arbenigwyr Prifysgol Caerdydd yn rhannu persbectifau eang ar y pwnc dan sylw mewn sgyrsiau byrion a fformat sy’n ysgogi’r meddwl.

Mae’r Athronydd Dr Orestis Palermos yn rhannu sut mae’r iaith yr ydym yn ei defnyddio yn newid y ffordd rydym yn gweld y byd, o safbwynt athroniaeth gwyddoniaeth. Mae’r ieithydd Dr Catherine Laing yn archwilio’r heriau a wynebir wrth gofnodi iaith estron anhysbys. Mae’r ffisegydd Jenifer Milard yn rhannu ei barn ar estroniaid i ddatgelu p’un a oes posibilrwydd fod bywyd yn y gofod. I gwblhau’r panel, bydd y ffisegydd a’r cyfathrebwr gwyddonol o UKAstroNut Matthew Allen, yn esbonio’r ffiseg y tu ôl i deithio trwy amser.

Mae BookTalk yn parhau yn yr Hydref gyda dangosiad arswydus o ffilm fywgraffyddol 2017 Mary Shelley ym mlwyddyn deucanmlwyddiant Frankenstein eleni yn rhan o Frankenfest Caerdydd (22-31 Hydref).

Cynhelir y digwyddiad arbennig hwn mewn cydweithrediad â Frankenreads ddydd Llun 29 Hydref, ychydig cyn Calan Gaeaf.

Ym mis Tachwedd, mae’r gyfres yn dathlu’r ffantasi clasurol, A Wizard of Earthsea, sy’n 60 oed. Mae cyfres Ursula Le Guin, sy’n cael ei chydnabod fel clasur yn y byd ffantasi a llenyddiaeth plant, bellach yn hynod ddylanwadol o fewn y genre.

Dywedodd trefnwyr BookTalk Caerdydd, Dr Alix Beeston a Dr Catherine Laing, darlithwyr yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth:

‘Rydym wedi cyffroi i allu cynnig rhaglen gyfoethog ac amrywiol o ddigwyddiadau i gwsmeriaid rheolaidd a newydd BookTalk y tymor hwn. Mae’r themâu yn amrywio o lenyddiaeth a ffilm, ffuglen wyddonol, darnau ffeithiol, a rhai testunau clasurol. Mae’r gyfres yn parhau i adlewyrchu ystod o faterion diwylliannol amserol ac arddangos ehangder diddordebau ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd newyddion cyffrous ar gyfer y gwanwyn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mwy yn y man!”

Gan gyrraedd ei seithfed flwyddyn, mae BookTalk Caerdydd wedi croesawu’r cyhoedd i ystod eclectig o dros 35 o ddigwyddiadau trafod agored. Yn fwyfwy poblogaidd,  mae ein digwyddiadau yn cynnwys ystod o deitlau ffuglen a ffeithiol, o Harry Potter and the Philosopher’s Stone JK Rowling i, drafodaethau ‘cwrdd â’r awdur’ gyda Tyler Keevil ar ei daith No Good Brothers.

Mae BookTalk Caerdydd yn rhad ac am ddim, ac argymhellir i chi gadw lle ymlaen llaw. Mae modd cadw lle nawr ar gyfer Story of Your Life/Arrival. Cynhelir y gyfres lenyddol ym Mhrifysgol Caerdydd (CF24 4HQ, Ysgol Optometreg), gyda lluniaeth ysgafn o 6.30pm ymlaen a sgyrsiau yn dechrau am 7pm.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Cardiff BookTalk, neu dilynwch ar Twitter a Facebook.

Rhannu’r stori hon