Ewch i’r prif gynnwys

Boddhad myfyrwyr Ysgol y Gymraeg yn cynyddu

13 Awst 2015

NSS Results

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi cofnodi sgôr o 91% am foddhad cyffredinol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) 2015. Dyma gynnydd ers y llynedd pan sgoriwyd 88%.

Cynhelir arolwg NSS yn flynyddol, ac mae'n gofyn i israddedigion sgorio eu profiadau yn y Brifysgol mewn gwahanol feysydd gan gynnwys addysgu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.

Yn gyffredinol, lleisiwyd boddhad uchel gan ein myfyrwyr ar draws ystod o elfennau gan gynnwys sgôr o 100% am y datganiadau canlynol:

  • Mae’r staff yn frwdfrydig am yr hyn y maent yn ei ddysgu
  • Mae’r trefniadau asesu a marcio wedi bod yn deg
  • Rydw i wedi gallu cysylltu â’r staff pan oedd angen

Derbyniodd yr Ysgol ganlyniadau ac ymateb cryf mewn meysydd eraill hefyd gan gynnwys cymorth academaidd (95%), trefniadau a rheoli (92%) ac adnoddau dysgu (87%).

Dywedodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Mae'r canlyniadau hyn yn arwyddocaol oherwydd maent yn cynrychioli barn go iawn ein myfyrwyr. Rydym, fel Ysgol, wedi ymrwymo i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad arbennig gyda ni yma yng Nghaerdydd – ar lefel addysgol a phersonol. Mae’r Ysgol yn gymuned gyfeillgar a chefnogol, ac yn uned ddysgu ac addysgu ragorol.

“Er gwaethaf y canlyniadau ardderchog hyn, nid ydym am laesu dwylo. Mae rhagor o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod boddhad myfyrwyr a mesurau eraill yn codi eto ac yn parhau i fod yn gyson uchel."

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd wedi cofnodi ei lefel uchaf erioed o foddhad cyffredinolymysg myfyrwyr, gyda 90% o fyfyrwyr yn fodlon â'u profiad cyffredinol. Mae hyn 1% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, ac mae'r canlyniad yn rhoi'r Brifysgol yn uwch na chyfradd Cymru (85%) a'r sector gyfan (86%) ar gyfartaledd ar gyfer boddhad cyffredinol.

Rhannu’r stori hon