Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio ymhlith y 10 uchaf

15 Hydref 2018

Mae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd bellach yn yr wythfed safle yn y DU (a'r gorau yng Nghymru) ar gyfer Cynllunio Gwlad a Thref a Thirlun yng Nghanllaw 2019.

Mae hyn yn cyd-fynd â rhestrau eraill sy'n cydnabod rhagoriaeth yr Ysgol ym meysydd addysgu ac ymchwil. Rhoddodd y Complete University Guide diweddaraf (2019) yr Ysgol yn yr 11eg safle ar gyfer Cynllunio Gwlad a Thref a Thirlunio.

Mae hefyd yn y 9fed safle ar gyfer Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol yn y Guardian University Guide 2019.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol: "Mae hwn yn ganlyniad ardderchog ac mae’n glod i'n hacademyddion a’n hymchwilwyr Cynllunio. Rydym yn adnabyddus am sicrhau rhagoriaeth ar draws ein disgyblaethau - Cynllunio Trefol a Daearyddiaeth Ddynol."

Aeth yn ei flaen: "Rydym wedi ymrwymo i roi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr. Yn yr ystafell ddosbarth, fe'u haddysgir gan staff arbenigol ac angerddol sy’n weithredol ym myd ymchwil. Mae hyn yn hwyluso amgylchedd dysgu cadarn a heriol sy'n eu hannog i gwestiynu'r sefyllfa sydd ohoni ac ysgogi ffyrdd newydd o feddwl am bobl, lleoedd a sut rydym yn byw. Rydym hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i ennill profiad ymarferol a defnyddio’r wybodaeth o’r ystafell ddosbarth mewn lleoliad proffesiynol. Bydd hyn yn eu paratoi i fod yn barod i ddechrau gwaith ar unwaith ar ôl graddio."

Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer addysgu ac ymchwilio ym maes cynllunio gofodol, dylunio trefol a daearyddiaeth ddynol. Mae'n ceisio cynnig atebion i broblemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol - heriau byd-eang cyfoes - mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.  Rydym yn adnabyddus am sicrhau rhagoriaeth ac rydym yn y 9fed safle yn y DU ar gyfer ansawdd ymchwil ar hyn o bryd (REF 2014).

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.