Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen allgymorth arloesol o £1.95m i ymgysylltu â disgyblion ysgol cymoedd de Cymru yn STEM

11 Hydref 2018

Bee

Bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda disgyblion ysgol ar draws cymoedd de Cymru yn rhan o fenter bwysig Llywodraeth Cymru i roi hwb i bynciau STEM.

Mae Trio Sci Cymru yn cael ei arwain gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Ffiseg a phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.

Nod y prosiect £8.2m sydd â chefnogaeth o £5.7 miliwn o arian yr UE a £2.5 miliwn gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, yw cynyddu nifer y bobl ifanc o orllewin a gogledd Cymru a chymoedd y de i ddewis pynciau STEM a chael graddau da ynddynt.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cael £1.95 miliwn i gyflwyno gweithgareddau ymgysylltu STEM ledled cymoedd de Cymru.

Dros gyfnod o dair blynedd, bydd Prifysgol Caerdydd yn ymgysylltu â 2,790 o ddisgyblion cyfnod allweddol tri; gan gynnig cyfle unigryw iddynt gymryd rhan mewn tair rhaglen allgymorth arloesol cyfoethogi STEM.

Gwenyn Apothecari - Bydd yr Athro Les Baillie o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn cyflwyno disgyblion i raglen hynod lwyddiannus Pharmabees. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwenyn a pheillwyr eraill, eiddo meddyginiaethol mêl a'i botensial i drin archfygiau ysbyty sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau.

Bydd disgyblion ym Mlwyddyn 8 yn dod yn 'dditectifs mêl', gan helpu fferyllwyr i nodi'r planhigion sy'n gyfrifol am weithgaredd gwrthfacterol mêl y Brifysgol. Ym Mlwyddyn 9, byddant yn ynysu cyfansoddion gwrthfacterol o'r planhigion. Drwy'r gweithgareddau hyn bydd y myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o'r broses darganfod cyffuriau a'r wyddoniaeth sy'n sail i feddyginiaeth.

Cemeg yn y 3ydd Dimensiwn - Byddant yn defnyddio sinema symudol 3D i roi cyfle i'r disgyblion gamu i mewn amrywiaeth o systemau cemegol. Bydd y gweithdai yn cyfuno cemeg gyfrifiadurol gyda'r uwch-daflunydd 3D o’r radd flaenaf i ddod â chemeg yn fyw ar y lefel atomig.

Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae priodweddau deunyddiau bob dydd yn gysylltiedig â strwythur atomig. Bydd gweithdai yn seiliedig ar themâu’r amgylchedd, plastigau a darganfod cyffuriau, a byddant yn cynnwys proffiliau gyrfa pobl sydd wedi astudio'r pwnc.

Mae'r rhaglen yn dod i ben gyda myfyrwyr yn dylunio eu harbrofion cemeg cyfrifiadurol eu hunain. Byddant hefyd yn cael cyfle i ddadansoddi data a gafwyd gan efelychu uwch-gyfrifiadurol.

UniverseLab, sy’n cael ei oruchwylio gan Dr Paul Roche o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth - Mae’n defnyddio gofod i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gwyddoniaeth, trwy gyfuniad o sioeau 3D, rhith-wirionedd a realiti estynedig, telesgopau robotig a gweithdai ymarferol.

Wrth archwilio'r Bydysawd o'u hystafelloedd dosbarth, bydd y disgyblion yn gweld sut mae gofodwyr yn byw ac yn gweithio ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol, ac yn cynllunio i archwilio’r Blaned Mawrth yn y dyfodol. Bydd y Telesgopau Faulkes sy’n cael eu rheoli o bell yn tynnu lluniau o blanedau, sêr a galaethau, y bydd y disgyblion yn eu monitro dros y tair blynedd nesaf.

Yn y gweithdai bydd y disgyblion yn astudio craterau, meteoritau a ffosiliau, ac yn dysgu am ddiflaniad y deinosoriaid, tra byddant hefyd yn sganio'r awyr i chwilio am asteroidau, comedau ac uwchnofâu newydd.

Dywedodd Dr Liam Thomas, rheolwr Trio Sci Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae Trio Sci Cymru yn gyfle unigryw i ni weithio gyda charfan o ddisgyblion ysgol dros gyfnod hir. Mae'r rhaglen yn cyd-fynd â gweithgareddau ehangu cyfranogiad y Brifysgol. Rydym yn teimlo'n gyffrous iawn ynglŷn â'r posibilrwydd o gynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar bynciau STEM trwy ddarparu rhaglen ymgysylltu arloesol sy'n dod â'n hymchwil yn uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth."

Yn ei strategaeth bum mlynedd, The Way Forward 2018-23, mae'r Brifysgol yn ymrwymo i helpu i wella cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru yn rhan o'i chenhadaeth ddinesig, ac i addysgu a hyfforddi gweithwyr proffesiynol y dyfodol.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Does dim amheuaeth ein bod am gymryd rhan amlwg yn ecosystem addysg a hyfforddiant Cymru, ac ystyried anghenion Cymru yn ein nodau a’n hamcanion. Mae ein rhaglen ymgysylltu Trio Sci Cymru yn gwneud hynny, ac yn mynd â rhan o'n hymchwil fwyaf cyffrous a blaengar i ysgolion lleol. Gyda lwc, drwy ein cynlluniau ymgysylltu arloesol, gallwn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, a helpu i adeiladu gweithlu STEM y dyfodol yng Nghymru."

Nod rhaglen Trio Sci Cymru yw annog dros 5,600 o bobl ifanc rhwng 11 a 14 oed o 30 o ysgolion ledled Cymru i astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a thu hwnt, gan helpu i greu gweithlu medrus ac economi sy’n ffynnu.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC: "Mae technoleg yn symud yn gyflym ac mae angen gweithlu medrus arnom er mwyn i Gymru allu manteisio ar hynny. Bydd y buddsoddiad hwn gan yr UE yn helpu i ysgogi diddordeb yn y pynciau craidd hyn, gan annog yr ieuenctid i gymryd rhan a thyfu economi Cymru yn sgîl hynny."

Rhannu’r stori hon