Ewch i’r prif gynnwys

Ansicrwydd ac anghydfod cyfansoddiadol yn rhoi Brexit Gwyrdd mewn perygl

10 Hydref 2018

Field

Yn ôl adroddiad, mae Brexit yn bygwth bwrw’r uchelgeisiau amgylcheddol cyffredin sy'n uno'r DU i'r cysgod.

Mae'r Athro Richard Cowell, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yn rhan o rwydwaith Brexit a’r Amgylchedd, sydd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn ymchwilio i oblygiadau Brexit ar gyfer polisïau amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig ddatganoledig. Mae adroddiad diweddaraf y grŵp yn nodi bod pryderon ymysg arbenigwyr y bydd yr amgylchedd yn cael llai o flaenoriaeth ar yr agenda polisïau ar ôl i’r DU adael yr UE.

Mae’r tîm, sydd wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cyhoeddi set o bedwar papur briffio, gydag awgrymiadau ar gyfer pob un o genhedloedd y DU. Mae crynodeb ohonynt mewn adroddiad cyffredinol, Environmental policy in a devolved United Kingdom: Challenges and opportunities after Brexit.

Mae rhai o’r prif ganfyddiadau'n cynnwys:

  • Paratoadau ar gyfer Brexit yn bygwth bwrw'r uchelgeisiau amgylcheddol cyffredin sy’n uno llywodraethau Cymru, yr Alban a’r DU i'r cysgod;
  • Gobaith Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yw gallu cyd-lunio polisïau ond, yn ôl profiad y gwledydd datganoledig, ychydig o rybudd a geir cyn cyhoeddiadau a phrin yw'r cyfleoedd i lunio polisïau;
  • Mae pryderon y bydd cytundebau masnach y dyfodol yn cyfyngu ar allu llywodraethau datganoledig i lunio'u polisïau eu hunain, er enghraifft trwy gyfyngu ar eu hawdurdod i leihau’r defnydd o Organebau a Addaswyd yn Enetig;
  • Mae rhanddeiliad yn poeni y bydd y corff gwarchod amgylcheddol newydd yn gorff Saesneg heb lawer o ddiddordeb yn y gwledydd datganoledig na dealltwriaeth ohonynt;
  • Ceir cryn bryder y bydd llywodraeth y DU yn tanseilio polisïau arloesol ac uchelgeisiol y gwledydd datganoledig;
  • Mae perygl i Ogledd Iwerddon gael ei heithrio o’r cytundeb amgylcheddol ar ôl Brexit gan nad oes mewnbwn ganddi yn y trafodaethau cyfredol. Mae hyn yn bwysig gan fod hanes cymharol wan o lywodraethu amgylcheddol yng Ngogledd Iwerddon, ac mae’n wynebu sawl her amgylcheddol draws-ffiniol gydag Iwerddon.

Dywedodd yr Athro Richard Cowell, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Mae Cymru eisoes wedi rhoi nifer o fesurau uchelgeisiol ar waith sy’n dangos ei gallu i feddwl yn strategol dros y tymor hir am sut i gyflawni polisïau amgylcheddol cadarn ac effeithiol. Ond mae’r ffordd y mae Brexit wedi datblygu wedi arwain bwrw uchelgeisiau amgylcheddol cyffredin y pedair cenedl i'r cysgod a chynyddu’r risg y bydd yr amgylchedd yn cael llai o flaenoriaeth ar yr agenda.

“Mae diffyg eglurder ac atebolrwydd ym model presennol y DU ar gyfer llywodraethu amgylcheddol. Hyd yma, ni fanteisiwyd ar y cyfle i dynnu sylw at y gwendidau hyn yn y cytundeb amgylcheddol ar ôl Brexit. Mae risg y gallai baglu ymlaen trwy’r broses Brexit arwain at fabwysiadu datrysiadau anneniadol yn barhaol, ar draul datrysiadau gwell y byddai eu rhoi ar waith yn ymddangos yn rhy anodd.

“Mae’n rhaid i lywodraeth y DU weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon i ddatblygu polisïau amgylcheddol ystyriol sy’n gwarchod ein hadnoddau naturiol ar gyfer y dyfodol.”

Mae'r adroddiadau ar gael yn:

Cymru: https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvWalesReport.pdf

DU: https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvUKReport.pdf

Alban: https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvScotlandReport.pdf

Gogledd Iwerddon: https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvUKReport.pdf

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.