Ychydig iawn o gefnogaeth i 'Undeb Gwerthfawr' May ym Mhrydain yn oes Brexit

09 Hydref 2018

Britain break-up

Ychydig iawn o gefnogaeth ystyrlon sydd i 'Undeb gwerthfawr' Theresa May ymhlith ei chefnogwyr ei hun neu Unoliaethwyr mewn pleidiau eraill, yn ôl ymchwil.

At hynny, yn ôl yr astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caeredin, mae agweddau tuag at yr Undeb wedi eu llywio'n bennaf gan gystadleuaeth a difaterwch rhwng y naill a'r llall.

Fe wnaeth Astudiaeth Dyfodol Lloegr, yr astudiaeth fwyaf a hiraf sydd ar gael o agweddau cyfansoddiadol pobl Lloegr, ganfod nad oedd pobl sy'n ystyried eu hun yn Unoliaethwyr, yn enwedig Ceidwadwyr a bleidleisiodd dros Adael, yn poeni ryw lawer am risgiau i'r Undeb o ganlyniad i Brexit, a'u bod yn gyndyn i flaenoriaethu anghenion yr Undeb dros anghenion eu grŵp eu hunain, a'i bod yn anwybodus ar y cyfan o wleidyddiaeth y tiriogaethau eraill.

Mae'r ymchwil wedi'i seilio ar Arolwg Dyfodol Lloegr, sydd bellach yn ei chweched flwyddyn, a chafodd rhywfaint ohoni ei chyflwyno mewn digwyddiad ymylol yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Mae'r arolwg wedi dangos cydberthynas gyson rhwng teimladau gwrth-Ewropeaidd yn Lloegr a phryderon ynghylch datganoli – teimlad bod Lloegr yn cael ei hesgeuluso neu ar ei cholled o ganlyniad i'r buddion sy'n cael eu rhoi i'r tiriogaethau datganoledig.

Eleni fe wnaeth y tîm, dan arweiniad yr Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, a'r Athro Ailsa Henderson o Brifysgol Caeredin, gynnal yr arolwg yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd, a chanfod agweddau tebyg tuag at undeb y DU a'r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig ymhlith y rhai a bleidleisiodd dros Adael.

Roedd y canfyddiadau allweddol yng Nghymru'n cynnwys:

  • Byddai'r bobl a bleidleisiodd dros Adael yn refferendwm yr UE yn fodlon i drefniadau sylfaenol yr Undeb gael eu cwestiynu er mwyn i Brexit ddigwydd;
  • mae 88% o'r rhai a bleidleisiodd dros Adael yng Nghymru a 76% o'r rhai sy'n pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod pleidlais 'Ie' i annibyniaeth yr Alban yn bris gwerth ei dalu i sicrhau bod Brexit yn digwydd;
  • Yn yr un modd, mae 84% o'r rhai a bleidleisiodd dros Adael yng Nghymru a 73% o'r rhai sy'n pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y byddai rhoi'r broses heddwch mewn perygl yng Ngogledd Iwerddon yn bris gwerth ei dalu ar gyfer Brexit;

Yn ogystal:

  • Byddai mwyafrif clir o Geidwadwyr Lloegr yn cefnogi annibyniaeth i'r Alban (79%) neu fethiant y Broses Heddwch yng Ngogledd Iwerddon (75%) fel pris gwerth ei dalu ar gyfer Brexit;
  • mae mwyafrif llethol o'r rhai a bleidleisiodd dros Adael yng Ngogledd Iwerddon yn Unoliaethwyr, ac mae 87% o'r garfan hon yn ystyried methiant y broses heddwch yn bris derbyniol ar gyfer Brexit, ac 86% ohonynt yn dweud hynny am bleidlais Ie mewn ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban;
  • Mae bron i hanner (49%) o'r Saeson sy'n pleidleisio dros y Ceidwadwyr o'r farn na ddylai ASau'r Alban fod yn rhan o Gabinet y DU, a'r newyddion drwg i David Mundell wrth i'r SNP ymgynnull yn Glasgow, yw bod 24% o'r rhai sy'n pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr Alban yn cytuno â nhw;
  • Fel arfer mae pleidleiswyr yn disgwyl y bydd polisïau ar ôl Brexit wedi eu halinio'n fwy â'r rhai yn Ewrop mewn meysydd fel ffioedd crwydro â ffôn symudol a safonau hylendid bwyd, nag y byddant wedi eu halinio o fewn y DU;
  • Doedd yn yr un o genhedloedd y DU â mwyafrif o drethdalwyr yn fodlon i'w trethi gael eu gwario mewn rhannau eraill pan oedd y rhannau hynny'n cael eu henwi.

Dywedodd yr Athro Wyn Jones: “Nid yw'r datganiadau egnïol o ffydd yn nyfodol Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon gan Theresa May a'i gweinidogion blaenllaw yn gallu cuddio'r ffaith bod yr Undeb dan bwysau anferth o ganlyniad i Brexit. Yn eironig, mae'r bygythiad gan y rhai fyddai'n ystyried eu hunain yn Unoliaethwyr yr un mor fawr â'r bygythiad gan y rhai yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd am weld yr Undeb yn dod i ben.

“Byddai mwyafrif llethol o'r rhai sy'n pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn Lloegr yn ffafrio gweld annibyniaeth i'r Alban a methiant y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn hytrach na chyfaddawdu ar eu cefnogaeth i Brexit. Ond nid dim ond Brexit sydd dan sylw. Mae hanner cefnogwyr y Ceidwadwyr yn Lloegr am wahardd ASau rhag bod yn rhan o gabinet Prydain yn gyfan gwbl.

“Mae'r hyn sydd wedi cadw gwledydd yr Undeb ynghyd wedi datod i'r fath raddau ei bod hi'n anodd, mewn gwirionedd, dychmygu bod yr ŵyl 'adnewyddu cenedlaethol' arfaethedig yn mynd i wneud unrhyw beth yn fwy na phwysleisio i ba raddau rydym yn parhau i bellhau o'n gilydd.”

I weld yr adroddiadau llawn, ewch i:

Rhannu’r stori hon

Yn yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.