Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd Diamser

9 Hydref 2018

Watch

Mae rhan fanwl gywir a wnaed gan ddefnyddio argraffydd 3D wedi helpu gwneuthurwr watshis o Dde Swydd Efrog i barhau ar flaen y gad.

Pan oedd angen rhan bwrpasol ar Guy Holland, trodd at Brifysgol Caerdydd a'i chanolfan ymchwil PARC er mwyn dod o hyd i ateb diamser.

Fe wnaeth PARC - partneriaeth academaidd a diwydiant yn Ysgol Busnes Caerdydd archwilio a defnyddio argraffu 3D (3DP) fel technoleg arloesol ar gyfer busnes watshis Guy yn Doncaster, Precise Time.

Fel rhan o Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), roedd modd i Guy fanteisio ar dechnolegau newydd a chystadlu â gwneuthurwyr watshis byd-eang.

“Oherwydd fy mod wedi fy nghyfareddu â gwneud watshis, mae gennyf bob amser ddiddordeb mewn dulliau newydd o weithgynhyrchu,” dywedodd Guy.

“Wrth ddylunio watsh ar gyfer fy hun, gwnes i feddwl am gynllun personol ar gyfer amgylchynu’r deial. Roedd angen i’r darn fod yn fanwl gywir, gyda ‘marcwyr’ oriau penodol – a byddai’r rhain yn lletchwith i’w gweithgynhyrchu’n fanwl gywir gyda thurn droed gwneuthurwr watshis.

Gan ddefnyddio arbenigedd Prifysgol Caerdydd a PARC, ym maes argraffu 3D, gweithgynhyrchwyd prototeip ar gyfer amgylchynu’r deial drwy’r bartneriaeth, cyn comisiynu arbenigwr ym maes argraffu 3D metel i wneud y rhan terfynol o ddur gwrthstaen.

Dywedodd Hrishikesh Pawar, sy'n arwain y prosiect ymchwil KTP: “Mae hyn yn arloesedd cyffrous iawn i ni. Mae’n dangos y gellir creu rhannau unigryw o ddyluniadau pwrpasol, sy’n anodd iawn i’w creu, gan ddefnyddio dulliau confensiynol o greu watshis.”

Ychwanegodd yr Athro Aris Syntetos, deiliad Cadair mewn Ymchwil Gweithrediadol a Rheoli Gweithrediadau yn y Ganolfan: “Barnwyd bod y prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hwn yn rhagorol. Dangosodd fod argraffu 3D yn gallu cwtogi’r amseroedd arwain ar gyfer ceisiadau wedi’u teilwra, gan ein helpu i gynnig gwasanaethau pwrpasol, a galluogi busnesau bach a chanolig megis Precise Time i weithgynhyrchu darnau sbâr ar gais.”

Ychwanegodd Guy: “Dechreuodd y watsh fel darn prawf, ond yn y pendraw daeth yn anrheg ar gyfer fy nhad. Mae canlyniadau’r arbrawf hwn gydag argraffu 3D wedi bod yn ardderchog. Rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniad terfynol, ac mae’r ansawdd yn rhagorol. Megis dechrau astudio rhannau watshis a argraffwyd mewn 3D y mae ein cwmni. Addasu symudiadau sydd nesaf. Mwy yn y man!”

Mae Prifysgol Caerdydd yn arbenigo mewn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth sy’n gallu trawsnewid sefydliadau yn y sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau gwe ynghylch Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.