Ewch i’r prif gynnwys

Papur gorau ar gyfer astudiaeth entrepreneuriaeth Affrica

5 Hydref 2018

Man receiving award in decorative room
Professor Beynon receiving award for African Entrepreneurship study at IAM 2018

Mae Athro Rhesymu Ansicr a Dadansoddi Busnes o Brifysgol Caerdydd wedi ennill dwy wobr yng nghynhadledd Academi Rheolaeth Iwerddon 2018 (IAM) a gynhaliwyd yn Ysgol Busnes Prifysgol Cork, Iwerddon.

Enillodd Malcolm Beynon, Deon Cyswllt ar gyfer Technoleg a Data yn Ysgol Busnes Caerdydd, y Papur Gorau yn Gyffredinol yn y gynhadledd gan drechu tua 150 o geisiadau gan ddirprwyaeth ryngwladol amrywiol o ymarferwyr o’r byd academaidd a thu hwnt.

Fe wnaeth yr Athro Beynon hefyd gipio’r wobr am y papur gorau ar gyfer ei gyflwyniad ar drywydd Entrepreneuriaeth a Rheoli Busnesau Bach y gynhadledd.

Gweithgarwch a bwriad

Man receiving award
Professor Beynon picks up Best Paper in Conference award in Cork Gaol.

Cafodd ei bapur ‘Total Entrepreneurial Activity and Entrepreneurial Intention in Africa Regions using Fuzzy-Set Qualitative Comparative Analysis (fsQCA)’, ei ysgrifennu gyda Paul Jones, Athro Entrepreneuriaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe a David Pickernell, Athro Busnesau Bach a Datblygu Mentrau ym Mhrifysgol Portsmouth.

Wrth fyfyrio ar y gwobrau, dywedodd yr Athro Beynon: “Dyma fy ymgais gyntaf, gyda fy nghydweithwyr, i edrych ar entrepreneuriaeth yn y cyd-destun Affricanaidd...

“Mae wedi ysgogi trafodaeth, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut bydd hyn yn datblygu ein syniadau wrth i ni barhau i ddadansoddi gweithgaredd a bwriad yn rhanbarthau’r is-Sahara.”

Yr Athro Malcolm Beynon Professor of Uncertain Reasoning

Mabwysiadodd y tîm ymchwil ymagwedd gyfluniadol i’r broses o ddadansoddi gweithgarwch entrepreneuraidd a’u bwriad ar draws Affrica.

Yn ei 21ain flwyddyn, IAM yw’r gymdeithas broffesiynol fwyaf blaenllaw ar gyfer astudiaethau rheoli, ymchwil ac addysg yn Iwerddon. Mae’n hybu datblygiad ym meysydd ymchwil, gwybodaeth ac addysg ym maes astudiaethau trefnu a rheoli.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwil, sy’n cael ei gynnal gan gyfadran ryngwladol o ysgolheigion sy’n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd pwnc, o fudd i amrywiaeth eang o randdeiliaid.