Ewch i’r prif gynnwys

Ffarwelio â chyn-Ddeon

5 Hydref 2018

Man holding glass trophy

Mae Martin Kitchener, Athro Rheolaeth a Pholisi'r Sector Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn y wobr anrhydeddus yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni.

Mae'r wobr, a gefnogir gan Academi Cymru, yn gydnabyddiaeth o waith arwain trawsnewidiol yr Athro Kitchener yn Ysgol Busnes Caerdydd rhwng 2012 a 2018.

Yn ystod ei gyfnod o chwe blynedd wrth y llyw, cyflwynodd yr Athro Kitchener strategaeth newydd uchelgeisiol i weithrediadau'r Ysgol.

Y cyntaf yn y byd

Cafodd y strategaeth ei datblygu drwy ymgynghori â staff, myfyrwyr ac ymarferwyr academaidd a busnes ehangach, ac mae’n amlinellu dyheadau’r Ysgol i gyflawni gwerth cyhoeddus yng nghymunedau Cymru a'r byd.

“Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr hon ar ran fy nghydweithwyr yn ysgol busnes gwerth cyhoeddus gyntaf y byd sy'n gweithio'n galed i wella amodau cymdeithasol ac economaidd trwy eu gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.”

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus
Group shot of award winners

Arweinwyr eithriadol

Dywedodd Barbara Chidgey, Cadeirydd Gweithredol Gwobrau Arwain Cymru: “Eleni, fe wnaethom ganolbwyntio ar enwebu unigolion o bob cwr o Gymru sydd wedi rhoi arweinyddiaeth ysbrydoledig a thrawsnewidiol. Dyma unigolion sydd â’u harweinyddiaeth yn cyfrannu at gyflawni nodau'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Efallai bod Cymru yn 'dir ein tadau', ond os ydym am wneud yn siŵr ei fod hefyd yn 'dir ein hwyrion', mae'n hanfodol trawsnewid sut rydym yn gweithio, dysgu, gofalu amdanom ein hunain, ein gilydd, ein cymunedau, ein heconomi a'n diwylliant...”

“Roedd llawer o unigolion ym mhob categori sy'n arweinwyr eithriadol ac yn ysbrydoli eraill i ymuno a helpu i ddatblygu eu hachos i drawsnewid ac i greu 'tir ein hwyrion', yn union fel Martin.”

Barbara Chidgey Cadeirydd Gweithredol Gwobrau Arwain Cymru

Hon yw’r 14eg blwyddyn i Wobrau Arwain Cymru gael eu cynnal. Maent yn cydnabod ac yn dathlu unigolion yng Nghymru o bob sector ac ar bob lefel o gyfrifoldeb sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn oherwydd eu harweinyddiaeth.

Fe'u hyrwyddir gan Gonsortiwm sy'n cynnwys CBI Cymru, FSB Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.