Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at lwyddiant

3 Hydref 2018

Loren Williams
Astudiodd Loren Williams y Llwybr at Ofal Iechyd ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth

Nifer uchaf erioedo oedolion sy'n dysgu wedi dechrau graddau israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd trwy gyrsiau rhan-amser yn hytrach na thrwy Safon Uwch.

Mae 41 o ddysgwyr wedi cwblhau rhaglen 'llwybr' gyda thîm Addysg Barhaus a Phroffesiynol y Brifysgol ac maent bellach wedi symud ymlaen i astudio gradd.

Yn aml nid oes angen cymwysterau blaenorol ar gyfer cyrsiau llwybr, sy'n cael eu cynnal gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Mae myfyrwyr yn ennill credydau sy'n eu galluogi i wneud cais i astudio gradd ym Mhrifysgol Caerdydd a darparwyr Addysg Uwch eraill.

Mae'r dull arloesol hwn yn golygu bod modd i fyfyrwyr gael cyngor, cefnogaeth astudio a phrofiad o fod mewn Addysg Uwch cyn ymrwymo i astudiaethau israddedig.

Mae un ar ddeg o lwybrau ar gael sy'n cwmpasu pynciau megis gofal iechyd; ieithoedd modern; rheoli busnes neu gyfrifeg; hanes, archeoleg neu grefydd; a Saesneg, llenyddiaeth ac athroniaeth.

Mae un o fyfyrwyr llwybr eleni, Loren Williams o Gaerdydd, bellach wedi dechrau gradd mewn bydwreigiaeth.

Meddai: "Rydw i wedi elwa cymaint mwy na'r gofynion academaidd sydd eu hangen i wneud cais i astudio ar lefel gradd.

"Mae fy hunan-barch wedi cynyddu, mae gen i grŵp cymdeithasol newydd sy'n cynnwys pobl sy'n rhannu'r un diddordebau â mi ac mae fy sgiliau trefnu wedi gwella.

"Mae unrhyw beth yn bosibl; y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw canolbwyntio arno, credu ynoch eich hun a chymryd y naid!

"Rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfle hwn i wireddu fy mreuddwydion, a minnau yn 30 mlwydd oed, gyda dau o blant, swydd a gŵr."

Jordan Graham
Mae Jordan Graham bellach yn astudio gradd mewn hanes

Stori lwyddiannus arall yw Jordan Graham, a symudodd i Gymru o Ganada yn ddiweddar, sydd bellach yn astudio gradd mewn hanes.

Dywedodd fod dilyn rhaglen llwybr wedi ei alluogi i gwrdd â phobl newydd â diddordebau tebyg tra'n ymestyn ei addysg.

"Mae ystod eang o ddosbarthiadau ar gael yn y llwybr Archwilio'r Gorffennol, dwi wedi darganfod llawer o ddiddordebau newydd mewn pynciau amrywiol yn yr Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd," meddai.

"Roedd hyn i gyd yn bosib gyda chefnogaeth gyson y tiwtoriaid ymroddedig sy'n cynnal y cyrsiau – roeddwn i'n edrych ymlaen yn fawr at y dosbarth bob wythnos ac yn mwynhau rhoi cynnig ar rywbeth newydd."

Rhannu’r stori hon

Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.