Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Newydd ar gyfer Cyfnewid Myfyrwyr

2 Hydref 2018

Front of Main Building, Cardiff University

Bydd Prifysgol St George, Grenada (SGU) a Phrifysgol Caerdydd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gofal iechyd gymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid er mwyn cryfhau eu hyfforddiant a datblygu ymhellach ar lefel ryngwladol.

Bydd y cytundeb pum mlynedd newydd, sydd wedi'i lofnodi rhwng SGU ac Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd yn paratoi'r ffordd i fyfyrwyr sy'n astudio nyrsio, bydwreigiaeth, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol ac ymarfer gofal llawdriniaethol, dreulio tair wythnos yn astudio yn y Brifysgol bartner, gan ennill profiad rhyngwladol a chysylltiadau proffesiynol newydd.

Bydd y myfyrwyr cyfnewid yn dod yn aelodau cofrestredig llawn o'r brifysgol bartner, ac yn meddu ar yr un mynediad at wasanaethau academaidd, cymorth a hamdden â myfyrwyr y brifysgol honno. Byddant hefyd yn cael Datganiad Presenoldeb am eu cyfnod yn astudio yn eu prifysgol bartner.

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dod i'r cytundeb newydd hwn gyda Phrifysgol Caerdydd", meddai Dr Richard Olds, Llywydd SGU. Mae'n dyst i amlygrwydd cynyddol SGU fel canolfan addysg gofal iechyd a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac yn gymeradwyaeth gref o'n rhaglenni yn ogystal â'n myfyrwyr – sy'n cael eu cydnabod ar draws y byd am eu safon.

"Bydd y rhaglen gyfnewid newydd hon gyda Phrifysgol Caerdydd yn galluogi myfyrwyr SGU i elwa ar astudio gydag un o adrannau ymchwil gorau'r DU. Bydd gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn eu tro, y cyfle i wella eu haddysg ar ein campws hyfryd, True Blue, yn Grenada, ochr yn ochr â'u cyfoedion o dros 140 o wledydd ar draws y byd."

Meddai’r Athro Dianne, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, Rhyngwladol ac Ymgysylltu, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd: ‘Mae ein Hysgol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ehangu rhwydweithio byd-eang. Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gofal iechyd ennill profiad o addysg ac ymarfer gofal iechyd mewn cyd-destun diwylliannol gwahanol.'

'Mae’r rhaglen gyfnewid gyntaf eisoes yn mynd rhagddi ar gyfer myfyrwyr nyrsio ac maent yn teimlo'n llawn cyffro am fod yn rhan o'r cydweithrediad hwn. Gyda lwc, bydd ein partneriaeth gyda Phrifysgol St George yn datblygu ymhellach ac yn cynnwys cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer cyfnewid athrawon ac ymchwil ar y cyd.’

Rhannu’r stori hon