Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith caletach a llai o lais – Gweithwyr Prydain o dan bwysau

1 Hydref 2018

Office workers

Yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd, mae gweithwyr Prydain o'r farn eu bod yn gweithio'n galetach nag erioed.

Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Rhydychen yw’r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth, ac wedi bod yn ymchwilio barn gweithwyr ers canol y 1980au.

Yn ôl ystadegau diweddaraf yr astudiaeth, sy'n cyhoeddi canlyniadau bob pum mlynedd, mae bron i hanner (46%) y rheini a holwyd yn cytuno'n gryf bod eu swydd yn gofyn iddynt weithio'n galed iawn, o'i gymharu â thraean (32%) o weithwyr yn unig ym 1992. Cododd cyfran y gweithwyr sy'n dweud bod angen iddynt weithio ar gyflymdra uchel iawn am dri chwarter o'r amser neu'n fwy, 4 pwynt canran i 31% yn 2017, y lefel uchaf ers 1986.

Athrawon ysgol mewn ysgolion gwladol sydd ar frig y rhestr o weithwyr sy'n ystyried bod eu swyddi'n gwneud iddynt weithio'n galed iawn. Yn rhyfeddol, cytunodd 92% o athrawon bod eu swydd yn gofyn iddynt weithio'n galed iawn, o’i gymharu ag 82% yn 2012.

Dyw nyrsys ddim ymhell ar ei hôl hi. Yn yr un modd ag athrawon, mae pa mor ddwys y maent yn ystyried eu swydd yn llawer uwch o’i gymharu â gweithwyr proffesiynol eraill. Yn y 1990au, cytunodd 55% o nyrsys yn gryf bod eu swydd yn gofyn iddynt weithio'n galed iawn, ond roedd hynny wedi codi i 70% rhwng 2012 a 2017.

Mae rhai o ganfyddiadau'r arolwg yn peri pryder ar adeg pan mae cyflogau go iawn yn aros yr un fath, ac mae ein canlyniadau'n awgrymu bod pobl yn gweithio'n galetach heb gymaint o gyfle i gyflawni tasgau eu swyddi i'r graddau yr hoffent wneud.

Yr Athro Alan Felstead Athro Ymchwil

Yn ôl Francis Green, Athro Addysg ac Economeg Llafur yng nghanolfan LLAKES Athrofa Addysg Coleg Prifysgol Llundain: "Mae gwaith yn aml yn dwysáu yn sgîl technoleg newydd, sy'n ei gwneud yn bosibl llenwi bylchau segur yn ystod y diwrnod gwaith a chynyddu'r pwysau. Fodd bynnag, yn achos athrawon a nyrsys, mae'r esboniad yn fwy syml: mae eu gwaith wedi dwysáu o ganlyniad i orfod cwblhau llwyth gwaith i’w gwblhau yn ystod oriau gwaith wedi cynyddu."

Ychwanegodd: "Mae'r hyn y mae'r arolwg wedi'i ganfod am athrawon yn cadarnhau bod gwir angen i'r llywodraeth gymryd camau i fynd i'r afael â gormodedd gwaith. Dyma un o'r prif resymau pam mae llawer o athrawon yn gadael eu swyddi, ac felly'n straen ar ein hadnoddau hyfforddi athrawon."

Mae'r astudiaeth hefyd yn datgelu newidiadau sylweddol mewn ansawdd swyddi rhwng 2012 a 2017. Rhwydd hynt wrth eich gwaith, sef y graddau y gall pobl ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei wneud wrth eu gwaith o ddydd i ddydd, yw'r math o gyfranogiad sydd â'r cysylltiad cryfaf â lles a chymhelliant gweithwyr. Yn anffodus, mae rhwydd hynt wrth eich gwaith wedi gostwng eto, a hynny ar ôl gostwng yn sylweddol yn ystod y 1990au. Bu gostyngiad o 3 phwynt canran yng nghyfran y gweithwyr a ddywedodd bod ganddynt ddylanwad mawr dros y tasgau y maent yn eu gwneud, a gostyngiad o 5 pwynt canran yn lefel y dylanwad sydd ganddynt dros sut i'w gwneud.

O safbwynt casarnhaol, fodd bynnag, mae ansicrwydd ynghylch swyddi wedi gostwng yn sylweddol ers 2012, gyda'r ganran sy'n ystyried bod tebygolrwydd o 50/50 neu'n uwch o golli eu swyddi wedi gostwng o'r ffigur uchaf erioed, sef 18% yn 2012, i'r ffigur isaf erioed, sef 9% yn 2017.

Serch hynny, mae cynnydd mewn dwyster gwaith a llai o reolaeth dros yr hyn a wnawn, yn gyfuniad adnabyddus ar gyfer swyddi "straen uchel", all beri straen yn y gweithle. Yn ôl yr arolwg, mae swyddi straen uchel wedi dod yn fwy cyffredin.  Cynyddodd y ganran bum pwynt canran i fenywod rhwng 2012 a 2017, gan olygu bod un o bob pump menyw mewn perygl uwch o fod o dan straen. Yn achos dynion, bu cynnydd o bedwar pwynt canran, i 15% o swyddi, rhwng 2006 a 2012. Ymysg athrawon ysgol, roedd 28% ohonynt mewn swyddi straen uchel, ac yn ôl 72% ohonynt, roeddynt yn dychwelyd adref o'r gwaith wedi blino'n lân yn aml neu drwy'r amser.

Yn ôl 'Work Intensity Britain', un o'r tri adroddiad a gyhoeddwyd, os yw cyflogwyr "eisiau annog gweithlu ymrwymedig sy’n ymgysylltu â’u gwaith, mae'n bwysig dylunio swyddi mewn modd hyblyg, gan gynnig cymorth digonol a chaniatáu mwy o gyfranogiad a rhwydd hynt wrth waith."

Dyma ragor o’r canfyddiadau:

  • Bu gostyngiad mewn cyfarfodydd ymgynghorol (8%) a grwpiau datrys problemau (2%) rhwng 2012 a 2017.
  • Mae hynny'n peri pryder, gan fod cysylltiad wedi’i wneud rhwng y dylanwad a geir drwy gymryd rhan ar lefel sefydliadol a buddiannau sylweddol ar gyfer lles yn ogystal â lefelau uwch o frwdfrydedd, cynnydd yn y modd yr ystyrir tegwch sefydliadol a gostyngiad yn y lefel o bryder ynghylch newid sefydliadol.
  • Mae'r perygl o golli swydd ar ei isaf ers dros 30 mlynedd – dywedodd llai nag un o bob deg (9%) o weithwyr Prydain yn 2017 bod dros 50/50 o bosibilrwydd y byddent yn colli eu swydd dros y 12 mis nesaf. Dyma hanner y gyfran (18%) o weithwyr a ddaeth i gasgliad tebyg yn 2012.
  • Mae gorbryder ynghylch newidiadau i'r swydd wedi gostwng yn sylweddol hefyd. Er enghraifft, yn 2012, roedd 37% o weithwyr yn bryderus y byddai eu cyflog yn gostwng, ond erbyn 2017, roedd hynny wedi gostwng i 28%, gyda lefelau gorbryder yn gostwng yn gyflymach ar gyfer dynion o gymharu â menywod.

Ychwanegodd yr Athro Felstead: "Mae diogelwch swydd wedi gwella'n sylweddol dros y bum mlynedd ddiwethaf, ac mae pryderon ynghylch colli swydd ar ei lefel isaf erioed.  Fodd bynnag, nid yw ansicrwydd wedi diflannu, ond go bosib ei fod wedi magu ffurf newydd, gyda 1.7 miliwn o weithwyr yn dweud eu bod yn bryderus ynghylch newidiadau annisgwyl i'w oriau gwaith – ffigur 2 ½ gwaith y nifer amcangyfrifedig o weithwyr ar Gytundebau Oriau Sero."

Mae llawer o drafod am ansawdd pob math o swyddi ar hyn o bryd.  Felly, os hoffech weld sut mae'ch swydd yn cymharu â rhai eraill o ran pa mor ddwys ydyw, rhwydd hynt wrth eich gwaith, diogelwch a llawer o nodweddion eraill, ewch i www.howgoodismyjob.com lle cewch afael ar gwis diogelwch swydd sy'n seiliedig ar yr arolwg.”

Mae tri adroddiad a gyhoeddwyd, ‘Work Intensity in Britain’,Participation at Work in Britain’ ac ‘Insecurity at Work in Britain’, yn rhan o Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017.

Roedd Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017, a gynhaliwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain a Choleg Nuffield, Rhydychen, wedi cael gafael ar y wybodaeth o sampl gynrychioliadol o weithwyr ym Mhrydain. Cynhaliwyd cyfweliadau â chyfanswm o 3,300 o weithwyr 20 i 65 oed ar gyfer y gwaith ymchwil, sy’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yr Adran Addysg a Phrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.