Ewch i’r prif gynnwys

Ydy gweithgynhyrchu yng Nghymru ar ei hôl hi?

27 Medi 2018

Close up of computer chips

Gallai’r busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru wella eu heffeithiolrwydd a’u hallbwn yn sylweddol trwy ddefnyddio’r technolegau a’r systemau busnes y mae sefydliadau mwy yn y diwydiant yn manteisio arnynt.

Bydd digwyddiad Prifysgol Caerdydd a NatWest Cymru mis nesaf yn helpu busnesau o sector gweithgynhyrchu amrywiol Cymru i ddeall manteision datblygiadau diweddar mewn Gweithgynhyrchu Clyfar fel bod modd iddyn nhw hefyd elwa o ddefnyddio pethau megis deallusrwydd artiffisial a chyfnewid data.

Mae Gweithgynhyrchu Clyfar, gan gynnwys datblygiadau technegol mewn awtomeiddio a roboteg uwch, cysylltedd rhyngrwyd a phrosesu data mawr (cyfeirir atynt gyda’i gilydd weithiau fel Diwydiant 4.0), yn prysur ddatblygu’n rhan greiddiol o fusnesau gweithgynhyrchu.

Effeithiolrwydd, hyblygrwydd a gwydnwch

Mae’r defnydd o dechnolegau cyfrifiadurol newydd a systemau gwybodaeth datblygedig yn caniatáu cwmnïau i fod yn fwy effeithiol, hyblyg a gwydn wrth weithredu.

Mae enghreifftiau yn cynnwys technegau rhagfynegi datblygedig i hwyluso gweithrediadau gweithgynhyrchu a rheoli cadwyni cyflenwi yn fwy effeithiol.

Pan fydd datblygiadau o’r fath a arweinir gan dechnoleg yn cael eu hategu gan ffyrdd mwy clyfar o weithio, mae’r manteision i fusnesau’n gallu bod yn enfawr.

Cynhelir y digwyddiad, a elwir Is Smart manufacturing for SMES?, ar 3 Hydref a bydd yn cynnwys sgyrsiau gan gynrychiolwyr o Ddiwydiant Cymru, NatWest, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn gyda Shine Food Machinery o Gasnewydd, sydd wedi elwa o raglen Knowledge Transfer Partnership Prifysgol Caerdydd.

Circle made of amber light

Let IT Shine

Knowledge Transfer Partnership to aid business growth

Bydd meysydd trafod yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, Gweithgynhyrchu Clyfar, rhagfynegi a rheoli cadwyni cyflenwi yn fwy effeithiol.

Ecosystem lewyrchus

Dywedodd Adrian Coles, Cyfarwyddwr Perthynas NatWest Cymru, Cwmpas Corfforaethol a Masnachol, De-ddwyrain Cymru: “Mae Cymru yn gartref i ecosystem lewyrchus o fusnesau gweithgynhyrchu BBaCh, ond mae’n dealladwy fod nifer o’r cwmnïau yn gweld fod gwelliannau fel awtomeiddio a thechnolegau Al yn berthnasol i gyflogwyr byd-eang llawer mwy yn unig...”

“Mewn gwirionedd mae’r esblygiadau hyn mewn technoleg yn berthnasol ac ar gael i fusnesau BBaCh yng Nghymru a bydd y digwyddiad hwn yn eu helpu i ddeall y manteision a ddaw ohonynt ac, yn ei dro, sut y gallant gael mynediad atynt.”

Adrian Coles Cyfarwyddwr Perthynas NatWest Cymru

Ychwanegodd Andrew Hopkins, Rheolwr Technoleg Strategol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn llwyr groesawu gweithio ar y cyd gyda diwydiant ar sail gyfrinachol...”

“Pan mae’r ddau barti yn cyfrannu at yr ymdrech o ymchwilio, mae’n creu cynnydd sylweddol mewn gwybodaeth i bawb sy’n rhan ohono.”

Andrew Hopkins Cydymaith Ymchwil

“Bydd y busnes yn defnyddio’r ymchwil i wella eu perfformiad a bydd Prifysgol Caerdydd yn elwa o wybodaeth werthfawr am ymchwil gymhwysol i lywio prosiectau’r dyfodol.”

I fynd i ‘Is SMART manufacturing for SMEs?’ ar 3 Hydref 2018 yn Ysgol Busnes Caerdydd cysylltwch ag Adrian Coles.

Rhannu’r stori hon

Cydweithiwch gyda ni drwy ein prosiectau ymchwil, gwasanaethau ymgynghori, trosglwyddo technoleg a mwy