Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod plastig mewn hanner cant y cant o bryfed dŵr croyw

27 Medi 2018

River Taff

Mae ymchwil o dan arweiniad Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd wedi datgelu bod microblastigau ar led mewn pryfed yn afonydd de Cymru.

Canfuwyd bod un ym mhob dau o bryfed wedi llyncu tameidiau microblastig, sef darnau o rwbel plastig sy'n llai na phum milimetr, ac roedd hynny'n wir ym mhob un o'r safleoedd a samplwyd.

Roedd yr astudiaeth hon, sef y cyntaf o'i math yn y DU, hefyd wedi ymchwilio i dri gwahanol fath o wybedyn Mai a larfâu caddis, a chanfod bod pob un ohonynt yn cynnwys deunydd plastig, beth bynnag oedd eu dulliau bwydo.

Yn ôl Fred Windsor, sy'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd: "Bob blwyddyn, credir bod rhwng wyth a deuddeg miliwn tunnell o blastig yn mynd i gefnforoedd y byd, ond mae tua phedair miliwn tunnell ohono'n teithio ar hyd ei afonydd. Mewn ambell achos, gall fod dros hanner miliwn o dameidiau plastig ym mhob metr sgwâr o wely'r afon, felly mae'n debygol iawn bydd pryfed yn eu llyncu.

Yn ein hastudiaeth, fe wnaethom ddefnyddio samplau o bryfed i fyny ac i lawr yr afon wrth fannau trin carthion ar Afonydd Taf, Wysg a Gwy, a chanfod bod plastigau'n rhyfeddol o gyffredin.

Yn ôl yr ymchwil, tra bod crynoadau uwch o blastig i'w canfod lle mae dŵr gwastraff yn cyfrannu mwy at lif yr afon, roedd plastig yn bresennol i fyny ac i lawr yr afon wrth arllwysfeydd carthion, sy'n awgrymu bod microblastigau'n mynd i'r afon o ffynonellau eang.

Ychwanegodd yr Athro Steve Ormerod, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: "Mae afonydd yn nhrefi a dinasoedd y DU wedi profi cyfnod o adferiad yn dilyn degawdau o lygredd dwys, ond yn ôl gwybodaeth sydd ar gynnydd, mae plastigau'n berygl newydd ar gyfer organebau'r afon, nid yn unig mewn trefi a dinasoedd, ond mewn ambell ardal wledig, hyd yn oed.

Gallai problemau godi yn sgîl effeithiau ffisegol microblastigau, o'u gwenwyndra uniongyrchol neu'r llygrwyr a gludir ganddynt. Mae plastig mewn pryfed yn golygu y gallai’r anifeiliaid sy'n eu bwyta gael eu heffeithio hefyd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, elfennol iawn yw'r hyn rydym yn ei wybod am y perygl i fywyd gwyllt a phobl. Mae angen i ni wella'r sefyllfa hon ar frys, er mwyn gwybod sut i reoli'r problemau'n well.

Yr Athro Steve Ormerod Athro

Yn ôl yr Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr ym Mhrifysgol Caerdydd: "Er bod pobl yn tyfu'n fwyfwy ymwybodol o'r niwed a berir i fywyd gwyllt y cefnforoedd o lyncu plastig, mae'r broblem bosibl yn sgîl plastig mewn ecosystemau afon wedi ei hesgeuluso'n arw.

"Mae'r diwydiant dŵr, rheoleiddwyr amgylcheddol, y diwydiannau plastig a phecynnu, a phobl gyffredin sy'n pryderu am yr amgylchedd yn ystyried bod hyn yn flaenoriaeth gynyddol, ac mae'r astudiaeth hon yn cynnig hyd yn oed rhagor o dystiolaeth bod angen i ni asesu ffynonellau, symudiad ac effeithiau microblastigau yn fwy trylwyr, wrth iddynt gael eu trosglwyddo rhwng y tir a'r môr ar hyd afonydd."

Ariannwyd y gwaith drwy gyfrwng ysgoloriaeth PhD gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol, o dan oruchwyliaeth yr Athro Steve Ormerod yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd a'r Athro Charles Tyler ym Mhrifysgol Caerwysg.

Mae'r ymchwil 'Microplastic ingestion by riverine macroinvertebrates' wedi'i chyhoeddi yn Science of the Total Environment