Ewch i’r prif gynnwys

Carreg filltir i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr

26 Medi 2018

CSL groundbreaking

Mae’r gwaith adeiladu wedi dechrau’r swyddogol ar safle Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Fe arweiniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams seremoni i nodi dechrau’r gwaith adeiladu gydag Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Fadhila Al Dhahouri, a chwmni adeiladu BAM.

Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr, yn trawsnewid y ffordd y mae'r Brifysgol yn cefnogi bywyd myfyrwyr, gan gynnwys ym meysydd iechyd meddwl a lles.

Bydd y cartref newydd hynod hwn ar gyfer gwasanaethau cefnogi myfyrwyr, ochr yn ochr ag Undeb y Myfyrwyr, yn cynnig ystafelloedd ymgynghori, awditoriwm 550 sedd, mannau astudio cymdeithasol ychwanegol a mannau myfyrio tawel.

Bydd yn gwneud gwasanaethau'n fwy cynhwysol, hygyrch a chyfleus ochr yn ochr ag adnoddau ar-lein gwell ac oriau agor estynedig.

Mae gwelliannau eisoes yn cael eu gwneud i wasanaethau gan olygu bod myfyrwyr yn elwa ar unwaith, cyn i'r Ganolfan agor.

Mae disgwyl i’r ganolfan, sy'n cael ei hadeiladu gan BAM, fod wedi’i chwblhau ym mlwyddyn academaidd 2020/21.

Rhannu’r stori hon