Ewch i’r prif gynnwys

Mae'n talu i fod yn besimistaidd

3 Hydref 2018

Man with hands in the air

Mae meddwl optimistaidd yn arwain pobl i sefydlu busnesau nad oes iddynt obaith realistig o lwyddo'n ariannol yn ôl ymchwil newydd o Brifysgol Caerfaddon, Prifysgol Caerdydd a'r London School of Economics and Political Science.

Mae'r astudiaeth, fu'n dilyn unigolion wrth iddynt symud o swyddi cyflogedig i sefydlu eu menter busnes eu hunain, yn esbonio i raddau pam mai dim ond pum deg y cant o fusnesau yn y DU sy'n goroesi eu pum mlynedd gyntaf.

Canfu ymchwilwyr fod perchnogion busnes oedd yn fwy optimistaidd na'r cyfartaledd yn ennill 30 y cant yn llai na'r rheini oedd yn llai optimistaidd na'r cyfartaledd, ac yn sylweddol llai na'r hyn y bydden nhw wedi'i ennill pe baent wedi aros yn gyflogedig.

Cyhoeddir yr astudiaeth yn yr European Economic Review, ac mae'n edrych ar ganlyniadau ariannol dod yn entrepreneur i bobl optimistaidd - pobl sy'n tueddu i fwyhau'r tebygolrwydd y byddan nhw'n gwneud yn dda a bychanu'r tebygolrwydd o fethu.

Wedi'u tynghedu i fethu

Man obscured by shadow

Er bod entrepreneuriaid yn ennill llai ar gyfartaledd, yn gweithio oriau hirach ac yn cario mwy o risg na'u cymheiriaid mewn swyddi cyflogedig, mae pobl optimistaidd yn fwy tebygol nag eraill i feddwl yn gamarweiniol eu bod wedi dod o hyd i gyfle busnes da a bod ganddynt y gallu i fanteisio arno'n llwyddiannus.

Mae realwyr a phobl besimistaidd yn llai tebygol o barhau â mentrau entrepreneuraidd llai addawol.

Mae astudiaethau'n adrodd yn gyson bod gan tua 80 y cant o'r boblogaeth agwedd rhy optimistaidd.

Gall hyn gynyddu uchelgais a dyfalbarhad, annog eraill i gydweithio ac yn gyffredinol gyfoethogi perfformiad. Ond yn anffodus, mae seilio dewisiadau ar asesiadau diffygiol hefyd yn arwain at gyfranogi mewn gweithgareddau sydd wedi'u tynghedu i fethu.

Yn 2016, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, sefydlwyd 414,000 o fusnesau yn y DU, o'i gymharu â 328,000 o fusnesau a fethodd yn yr un flwyddyn.

Cyfran gynyddol o weithlu'r DU

Dywedodd Dr Chris Dawson, Athro Cyswllt mewn Economeg Busnes yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Caerfaddon: “Mae ein canlyniadau'n awgrymu bod gormod o bobl yn dechrau mentrau busnes, o leiaf o ystyried yr enillion personol dan sylw.

“Fel cymdeithas rydym ni'n dathlu optimistiaeth a meddwl entrepreneuraidd ond pan fydd y ddau'n cyfuno mae'n bwysig edrych yn iawn ar realiti'r sefyllfa. Mae pob enghraifft o raglen Dragon's Den y BBC yn cynnig enghreifftiau o feddwl o'r fath. Efallai nad yw pesimistiaeth yn cael ei ystyried yn nodwedd ddymunol ond mae'n diogelu pobl rhag mentro gyda phrosiectau entrepreneuraidd gwan.”

Ychwanegodd Andrew Henley, Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'r dystiolaeth yn awgrymu'n gryf bod angen i ddarpar entrepreneuriaid feddwl a chynllunio'n ofalus cyn lansio menter busnes newydd.

“Caiff yr hunangyflogedig eu hanwybyddu'n aml gan wneuthurwyr polisi ac eto maen nhw'n gyfran gynyddol o weithlu'r DU...”

“Mae angen cefnogaeth a gynlluniwyd yn ofalus i wneud yn siŵr bod pobl sy'n ystyried gweithio’n hunangyflogedig, yn gwneud hynny ar sail asesiad gofalus a rhesymegol o'u siawns o lwyddiant, yn enwedig yn yr amgylchedd busnes heriol presennol.”

Yr Athro Andrew Henley Professor of Entrepreneurship and Economics, Director of Research Engagement and Impact

Ychwanegodd yr Athro David de Meza o Adran Rheolaeth yr LSE: “Yn aml mae llywodraethau'n siarad am rôl entrepreneuriaid yn creu twf economaidd, ond mae ochr llai ffafriol i hyn.

“Ni ddylid diystyru’r canlyniadau personol a chymdeithasol syn deillio o fusnesau'n methu, sef yr union beth y mae pobl optimistaidd yn ei wneud. Ni ddylai gwneuthurwyr polisi annog y math anghywir o fusnes newydd.”

Roedd yr astudiaeth yn dadansoddi 18 mlynedd o ddata o Arolwg Panel Cartrefi Prydain - astudiaeth hydredol fawr - gan gofnodi optimistiaeth fel tuedd wrth ragweld canlyniadau ariannol personol pan fydd pobl mewn swyddi cyflogedig o hyd, a'i effeithiau dilynol ar enillion entrepreneuraidd.

Gallwch weld yr astudiaeth lawn – ‘Curb Your Enthusiasm: Optimistic Entrepreneurs Earn Less’ – yn yr European Economic Review.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.