Ewch i’r prif gynnwys

Prawf newydd i helpu i roi diagnosis o awtistiaeth mewn oedolion

6 Awst 2015

Sue Leekam
Professor Sue Leekam

Mae seicolegwyr y Brifysgol wedi datblygu’r prawf hunanasesu cyntaf i helpu clinigwyr roi diagnosis o awtistiaeth mewn oedolion

Cyhoeddwyd y prawf yn Journal of Autism and Developmental Disorders, ac mae’n mesur y graddau y mae ymddygiad ailadroddus yn effeithio ar oedolion – sef un o'r meini prawf a ddefnyddir i roi diagnosis o awtistiaeth.

Mae'r ymddygiad hwn yn cynnwys arferion cyffredin ac arferion patrwm, fel rhoi gwrthrychau mewn rhes neu eu trefnu mewn patrymau, chwarae â gwrthrychau yn obsesiynol, neu fynnu bod agweddau ar y drefn feunyddiol yn aros yn union yr un fath.

Mae ymchwilwyr yn dweud bod y prawf yn ddull dibynadwy o fesur yr ymddygiad hwn, i ddangos a ydynt yn anarferol o aml neu ddifrifol. 

I benderfynu pa mor ddibynadwy yw’r prawf hunanasesu hwn i oedolion, mae arbenigwyr awtistiaeth y Brifysgol, a Phrifysgol La Trobe, Melbourne, wedi treialu’r prawf ar oedolion ym Mhrydain ac Awstralia (cyfanswm o 229 wedi cymryd rhan), rhai gyda diagnosis o awtistiaeth, a rhai heb.

Er bod oedolion heb ddiagnosis o awtistiaeth yn dangos tuedd uchel o ran ymddygiad ailadroddus, roedd yr unigolion oedd â diagnosis o awtistiaeth yn gyson yn sgorio'n sylweddol uwch ar y mesur hwn.

Mae awtistiaeth gan dros 1 o bob 100 o’r boblogaeth. Y gobaith yw y bydd y prawf yn cyfrannu at welliannau wrth roi diagnosis o awtistiaeth. 

"Mae llawer o’r mesurau a ddefnyddir i ymchwilio i awstistiaeth a rhoi diagnosis ohono yn dibynnu ar rieni, athrawon neu’r rheini sy’n rhoi gofal i roi gwybod am ymddygiad unigolion sy’n dioddef o'r cyflwr," dywedodd yr Athro Sue Leekam, Cadeirydd Awtistiaeth a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru yn y Brifysgol.

"Mae ein hymchwil wedi datblygu prawf lle gall unigolion roi gwybod am eu hymddygiad eu hunain, at ddibenion clinigol ac ymchwil, gan sicrhau ein bod yn cael darlun mwy llawn o'r ffordd y mae'r ymddygiad hwn yn effeithio ar bobl.”

Nid yw ymddygiad ailadroddus yn gyffredin mewn awtistiaeth yn unig. Mae hefyd yn symptom sy’n gysylltiedig ag anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), clefyd Parkinson a syndrom Tourette.

Ni all y prawf ar ei ben ei hun roi diagnosis o awtistiaeth, oherwydd mae ymddygiad ailadroddus yn gyffredin i gyflyrau eraill, a dim ond un o'r meini prawf ar gyfer diagnosis o awtistiaeth yw ymddygiad ailadroddus.  Dyluniwyd y prawf i helpu clinigwyr yn y broses o roi diagnosis. 

Yr hyn sy'n rhyfeddol yw y gall ymddygiad cynyddol a gaiff ei asesu yn ystod plentyndod cynnar fel arfer, gael ei fesur ar ffurf ffurflen hunanasesu ymysg oedolion hefyd.

Cam nesaf y gwaith ymchwil fydd treialu’r prawf ar bobl o bob oed sy’n dioddef o awtistiaeth, cyn ei roi ar waith mewn clinigau ledled y DU.

Ariennir y gwaith ymchwil gan ysgoloriaeth ESRC i Sarah Barrett, ac mae’n dal i fynd rhagddo.  Gall pobl dros 18 oed gymryd rhan yn y gwaith ymchwil drwy fynd i: http://sites.caerdydd.ac.uk/rbq2a/online/.

Rhannu’r stori hon