Ewch i’r prif gynnwys

Yr astudiaeth fwyaf datblygedig o ddelweddu’r ymennydd yng Nghymru

20 Medi 2018

Brain image

Gan ddefnyddio peth o’r cyfarpar niwro-ddelweddu mwyaf datblygedig yn y byd, mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn bwriadu astudio swyddogaeth a strwythur ymennydd 170 o wirfoddolwyr iach fel rhan o brosiect ymchwil i ddatgelu’r dirgelion sy’n dal yn gysylltiedig ag organ mwyaf cymhleth ein cyrff.

Trwy astudio swyddogaethau strwythurol, cemegol, fasgwlaidd a metabolig ymennydd pobl, gobaith y tîm yw casglu gwybodaeth newydd a fydd yn hybu dealltwriaeth, diagnosis a thriniaeth yng nghyswllt clefydau’r ymennydd fel epilepsi a sgitsoffrenia, a dysgu mwy am ddylanwad genynnau penodol ar ymddygiad a gweithrediad yr ymennydd.

Yn yr astudiaeth bwysig hon, sy’n cael ei hariannu gan Wellcome, bydd gwirfoddolwyr rhwng 18 a 65 oed yn cael sganiau MRI, MEG, TMS a PET, yn cwblhau nifer o brofion gwybyddol a holiaduron cysylltiedig â iechyd meddwl a chefndir demograffig, ac yn darparu sampl o boer er mwyn casglu data genetig.

Dywedodd yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC: “Drwy astudio llu o signalau delweddu’r ymennydd a gwahanol swyddogaethau’r ymennydd mewn gwirfoddolwyr lluosog hyd at lefel na cheisiwyd ei chyrraedd o’r blaen, ein gobaith yw sicrhau dealltwriaeth newydd bwysig o’r ymennydd a chyflawni newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o’r ymennydd iach a’r ymennydd sydd yng ngafael afiechyd.”

Cysylltwch â’n tîm recriwtio ar 02920688377 neu WAND@cardiff.ac.uk os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon.

Cynhelir yr astudiaeth rhwng Hydref 2018 a Hydref 2021. Mae tâl o hyd at £325 ar gael i bob gwirfoddolwr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn http://www.cardiff.ac.uk/cardiff-university-brain-research-imaging-centre/research/projects/multi-scale-and-multi-modal-assessment-of-coupling-in-the-healthy-and-diseased-brain

Rhannu’r stori hon

Rydym yn ymgymryd â dulliau ymchwil arloesol wrth ymdrin ac yn ei gymhwyso i gwestiynau seicolegol a chlinigol allweddol.