Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol yn lansio 'Academi Meddalwedd Cenedlaethol'

12 Hydref 2015

National Software Academy
Left to right: Simon Gibson, Chairman of the Alacrity Foundation; Edwina Hart AM, Minister for Economy, Science and Transport; Professor Colin Riordan, Vice-Chancellor, Cardiff University.

Bydd rhaglen gradd peirianneg feddalwedd yn cyflwyno i raddedigion y profiad ‘yn y swydd’ sydd ei angen ar gyflogwyr

Lansiwyd ‘Academi Meddalwedd Genedlaethol’ ar gyfer hyfforddi ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr meddalwedd yng Nghymru heddiw gan y Brifysgol a Llywodraeth Cymru.

Sefydlwyd y rhaglen gradd tair blynedd (BSc Peirianneg Feddalwedd Gymwysedig), a gaiff ei rhedeg mewn partneriaeth â Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd, gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg i fynd i’r afael â’r galw am beirianwyr meddalwedd medrus yng Nghymru, nad yw’n cael ei ddiwallu ar hyn o bryd.

Bydd y radd, a gyflwynir yn ‘Platfform’, cartref cwmni arloesi digidol newydd Llywodraeth Cymru yng Nghasnewydd, hefyd yn rhan allweddol o gynllun Llywodraeth Cymru i adfywio Casnewydd drwy ddarparu cysylltiadau cryf gyda diwydiant a rhanbarth ehangach Caerdydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart: “Mae sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn hollbwysig i economi Cymru ac mae’r rhaglen hon yn cefnogi’n llawn ein gweledigaeth o ddenu ac adeiladu gallu yn y maes hwn.

“Rydym ni’n lywodraeth sydd o blaid busnes, yn ymrwymo i weithio gyda’r sector i ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol i anghenion economaidd Cymru. Rwyf i wrth fy modd ein bod ni’n lansio’r Academi Meddalwedd Genedlaethol oherwydd bydd yn sicrhau y bydd gan raddedigion sy’n mynd i’r maes hynod arbenigol hwn y sgiliau a’r hyfforddiant cywir i fwrw iddi ar unwaith gyda’r gwaith.”

Mae ymchwil marchnad a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd diwydiannau yng Nghymru’n galw am 3,100 o weithwyr TG proffesiynol bob blwyddyn. Mae’r cyflenwad o raddedigion medrus o’r prifysgolion yn isel, sy’n golygu nad yw’r galw’n cael ei ddiwallu ar hyn o bryd.

Nid Cymru yw’r unig le sy’n ceisio llenwi’r bwlch hwn: yn UDA er enghraifft, mae galw blynyddol am 125,000 o raddedigion peirianneg feddalwedd medrus, gyda’r prifysgolion yn darparu 45,000 o raddedigion yn unig.

Ymhellach, mae canfyddiad yn y diwydiant bod graddedigion peirianneg feddalwedd yn brin o nifer o sgiliau hanfodol i’w paratoi ar gyfer y gweithle unwaith iddyn nhw adael y brifysgol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, bydd myfyrwyr a gofrestrir yn yr 'Academi Meddalwedd Genedlaethol' yn gweithio ar brosiectau “bywyd real” drwy gydol eu hastudiaethau ac yn cael eu mentora gan beirianwyr meddalwedd profiadol o fyd diwydiant.

Dywedodd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Pan fyddwn ni’n siarad gyda’n partneriaid mewn busnes a diwydiant, maen nhw’n dweud bod angen rhagor o raddedigion sy’n meddu ar y sgiliau iawn wrth adael y brifysgol ar gyfer gweithle’r unfed ganrif ar hugain. Mae angen graddedigion gyda mwy o brofiad ‘yn y swydd’ a rhyngweithio gyda busnesau drwy gydol eu hastudiaethau.

“Bydd yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn ymdrin â’r materion hyn, ac yn sicrhau profiad addysgol arbennig i’n myfyrwyr sy’n sicrhau eu bod yn sefyll uwchlaw’r dorf. Bydd myfyrwyr yn graddio’n arweinwyr hynod gyflogadwy yn eu maes, gyda’r awch galwedigaethol sydd ei angen yn y gweithle heddiw.”

Dywedodd yr Athro Simon Gibson, Cadeirydd Sefydliad Alacrity: “O’n profiad ni, daeth yn amlwg bod angen i’r gymuned academaidd lunio cwricwlwm newydd gydag ymwybyddiaeth lawer dynnach o anghenion cyflogwyr.

“Drwy bartneriaeth gref gyda Phrifysgol Caerdydd, mae Sefydliad Alacrity wedi cynorthwyo i greu cwrs sy’n cyd-fynd â’r cyfleoedd anferth sy’n parhau i ymddangos ym maes cyfrifiadura a rhwydweithio. Mae ymateb y diwydiant a darpar fyfyrwyr, ynghyd â llwyddiant y flwyddyn beilot, yn cadarnhau’r penderfyniad i arloesi o ran addysgu peirianneg feddalwedd. Rydym ni’n cymeradwyo Prifysgol Caerdydd am weld yr angen i greu’r Academi Meddalwedd Genedlaethol.”