Ewch i’r prif gynnwys

Datgelu hanes genetig y ficwnia a'r gwanaco

18 Medi 2018

Peruvian vicuña

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd wedi datrys genynnau anifail yn nheulu'r alpaca, fydd yn ddefnyddiol wrth ddatblygu strategaethau i warchod un o rywogaethau iconig yr Andes.

Hynafiaid yr alpaca a'r lama yw'r ficwnia a'r gwanaco, a gellir eu gweld ar hyd tirweddau Periw a Gogledd Chile. Mae astudiaeth gan Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod cliwiau genetig y tu ôl i'w hesblygiad a'r lleihad yn eu poblogaeth.

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar wahaniaethau DNA rhwng y ddau anifail, gan ganolbwyntio ar lle mae'r ficwnia a'r gwanaco yn byw ym Mheriw a Chile.

Dywedodd Dr Pablo Orozco ter Wengel, Prifysgol Caerdydd: "Roedden ni'n edrych ar amrywiadau genetig ymhlith poblogaethau naturiol y ddau anifail hyn, yn dadansoddi pa mor wahanol ydyn nhw, ac yn ystyried sut mae hyn wedi'i gysylltu â lle rydyn ni'n eu gweld.

"Dangosodd ein hymchwil fod poblogaethau'r ddau anifail hyn wedi eu rhannu'n ddau grŵp ar wahân, a bod pob grŵp yn byw mewn ardal ddaearyddol wahanol.

"Rydym hefyd wedi dod o hyd i wybodaeth am ddirywiad rhywogaethau drwy gydol hanes.

"Fe wnaeth goresgyniad y Sbaenwyr yn Ne America arwain at ddirywiad yn niferoedd yr anifeiliaid hyn, a 50 mlynedd yn ôl roedd llai na 5,000 o ficwniaod Periwaidd yn byw yn y gwyllt.

"Dangosodd ein hastudiaeth fod y rhywogaeth hefyd wedi dirywio'n fawr rhwng tua 2000 a 3000 mlynedd yn ôl, a gyd-ddigwyddodd â'r cynnydd mawr ym mhoblogaeth bodau dynol yn Ne America.

Dywedodd Dr Mike Bruford, o Brifysgol Caerdydd: "Mae'r wybodaeth hon yn bwysig ar gyfer goroesiad yr anifeiliaid hyn, oherwydd rydym yn gallu defnyddio data a gesglir drwy ddadansoddiadau genetig i ddatblygu strategaethau rheoli rhywogaeth, a helpu i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddyfodol."

Rhannu’r stori hon