Ewch i’r prif gynnwys

Cyngres Rhwydwaith Ymchwil y Gwyddorau Bywyd yn dod ag ymchwilwyr Darganfod Cyffuriau gorau Cymru at ei gilydd

10 Medi 2018

Cyngres 2017
Cyngres 2017

Bydd y 5ed Gyngres Wyddonol Flynyddol ar Ddarganfod Cyffuriau yn cael ei chynnal yng Ngwesty a Sba Dewi Sant, Bae Caerdydd, o 11-12 Medi 2018.

Bydd y digwyddiad amlwg hwn yn dod â gwyddonwyr darganfod cyffuriau ynghyd o bob rhan o Gymru, gan roi cyfle i ddatblygu trefniadau cydweithio newydd ar draws y gymuned wyddonol a chryfhau’r ffocws ar sicrhau cyllid ymchwil newydd i sefydliadau yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad terfynol hwn yng nghylch oes y Rhwydwaith, a ariannwyd fel rhan o raglen £50 miliwn Sêr Cymru 1 Llywodraeth Cymru i ddatblygu capasiti ymchwil yng Nghymru, yn arddangos cyfoeth ac aeddfedrwydd prosiectau darganfod cyffuriau’r Rhwydwaith ledled Cymru. Eleni, byddwn yn canolbwyntio ar waith cyffrous, arloesol sydd yng ngofal myfyrwyr PhD blwyddyn olaf a detholiad o ymchwilwyr ôl-ddoethurol, gan ddatgelu toreth o ddoniau ymchwil wrth i brosiectau symud ymlaen i gyfnod olaf dadansoddi’r data a’r posibilrwydd o ddarganfod atebion i feysydd lle mae angen meddygol heb ei ddiwallu. Mae’r Gyngres yn gyfle i fyfyrwyr ac academyddion blaenllaw o bob rhan o Gymru amlygu eu gwaith ymchwil a thrafod yr heriau a wynebir wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o therapiwteg. Bydd nifer o ymchwilwyr blaenllaw y mae eu gwaith wedi arwain at fasnacheiddio llwyddiannus yn bresennol yn y digwyddiad, a hefyd gynrychiolwyr o’r diwydiant sydd â chryn brofiad o ddatblygu cyffuriau.

Eleni, mae’r Rhwydwaith wrth ei fodd yn croesawu’r prif siaradwyr canlynol: Dr Alan Parker, Darllenydd mewn Firotherapïau Trosiadol ym Mhrifysgol Caerdydd, fydd yn cyflwyno ar firotherapïau tiwmor-ddetholus; Dr George Johnson, Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn cyflwyno ar ddatblygu profion gwenwyndra genetig trwybwn uchel; yr Athro Cathy Thornton, Athro Imiwnoleg ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn cyflwyno ar ddarganfod cyffuriau ym maes beichiogrwydd a phediatreg, a’r Athro Paul Dyson, Athro microfioleg foleciwlaidd ym Mhrifysgol Abertawe, a fydd yn cyflwyno ar ymyrraeth RNA drwy gyfrwng bacteria fel therapi ar gyfer tiwmorau solet.

Mae’r Rhwydwaith yn arbennig o falch o groesawu Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, i agor y Gyngres ar y diwrnod cyntaf.

"Mae Rhwydwaith Ymchwil y Gwyddorau Bywyd nid yn unig wedi dod ag ymchwilwyr i Gymru o bob rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd wedi annog mewnfuddsoddi gan elusennau ymchwil amlwg megis Cancer Research UK ac Ymddiriedolaeth Wellcome. Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf mae wedi rhoi cyfleoedd i ymchwilwyr a myfyrwyr ddod â phrosiectau ymchwil newydd cyffrous i feysydd sydd heb fod yn destun digon o ymchwil o bosibl yn y gorffennol. Mae rhaglen Sêr Cymru wedi arwain at newid sylweddol mewn capasiti ymchwil ac wedi rhoi Cymru'n bendant ar y map fel canolfan darganfyddiadau gwyddonol."

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ers i’r Rhwydwaith gychwyn ddiwedd 2013 gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae £5.9 miliwn wedi cael ei ymrwymo’n uniongyrchol i brosiectau darganfod cyffuriau’r Rhwydwaith ledled Cymru, gan hwyluso’r ymgysylltu cydweithredol â mwy na 330 o bartneriaid. Mae academyddion blaenllaw o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe wedi cydweithio ar fwy na 143 o brosiectau ymchwil, mae £34.6 miliwn o gyllid ymchwil ychwanegol wedi cael ei gynhyrchu, ac mae’r ymchwilwyr wedi cyflwyno’u gwaith mewn mwy na 361 o anerchiadau cynhadledd, gan gyhoeddi mwy na 118 o bapurau mewn cyfnodolion sy’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid.

Mae’r Rhwydwaith wedi rhagori ar y dangosyddion perfformiad allweddol a bennwyd gan yr arianwyr ar ddechrau’r prosiect, ac mae’r lefelau hyn o allbwn yn amlygu ansawdd a swm y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud gan brosiectau’r Rhwydwaith ledled Cymru.

Mae’r Rhwydwaith wedi cydweithio’n agos â nifer o bartneriaid yn y diwydiant, y GIG a chyrff ariannu pwysig eraill gyda ffocws cryf ar gysylltiadau ag arianwyr eraill, fel Cronfa Bontio’r Gwyddorau Bywyd.

Dywedodd yr Athro Brancale, Cyfarwyddwr Gwyddonol y Rhwydwaith: “Mae lefel yr ymgysylltu â’r Rhwydwaith gan academyddion wedi bod yn aruthrol hyd yma. Rydym wedi gweld dros 457 o geisiadau newydd ar gyfer prosiectau darganfod cyffuriau yn cael eu cyflwyno i’w hadolygu – ac rydym wedi cefnogi dros 143 o brosiectau. Mae’r Rhwydwaith wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy ganolbwyntio’r cyllid ar ymchwil a allai gael effaith fawr, a chefnogi’r gwaith o ddarganfod therapiwteg newydd bosibl.”

Rhannu’r stori hon