Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio effaith technolegau digidol ar economi Cymru a gweithlu'r dyfodol

10 Medi 2018

Laptop

Mae dyfodol gwaith yng Nghymru yn sgîl y chwyldro digidol yn destun adolygiad o bwys.

Yr Athro Phillip Brown o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol sy’n arwain y panel, fydd yn archwilio'r cynnydd sy'n mynd rhagddo ym maes awtomatiaeth, roboteg, deallusrwydd artiffisial, rhyngrwyd pethau a data ar raddfa fawr, gan archwilio sut y byddant yn effeithio ar economi Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Bydd yr Panel o Arloesedd Digidol ar gyfer yr Economi a Dyfodol Gwaith yng Nghymru yn cyflwyno'r argymhellion terfynol ym mis Mawrth 2019.

Yn ogystal ag asesu effaith technolegau newydd, bydd y panel yn trafod sut y gellir ymelwa ar welliannau yn y modd y defnyddir data, a'r meysydd sy'n dod i'r amlwg lle gallai Cymru gael mantais gystadleuol.

Yn ôl yr Athro Brown: "Mae byd gwaith yn prysur newid; mae technolegau newydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous, ond nid ydynt heb heriau hefyd. Mae'r gystadleuaeth yn gynyddol ffyrnig ac mae'n hollbwysig ein bod yn cymryd camau nawr i wneud yn siŵr nad yw Cymru'n cael ei gadael ar ôl.

Bydd yr adolygiad yn cyfrannu at Gynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, y Cynllun Cyflogadwyedd a'r Strategaeth Genedlaethol: Ffyniant i Bawb.

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Nid oes amheuaeth fod graddfa a chyflymder y newidiadau yng Nghymru yn y bedwaredd oes ddiwydiannol yn cynnig heriau sylweddol yn ogystal â chyfleoedd enfawr. Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn nodi ein hymrwymiad i sbarduno diwydiannau’r dyfodol. Mae hynny’n golygu gwneud yn siŵr bod Cymru yn y sefyllfa orau i allu manteisio ar gam nesaf arloesedd digidol mewn ffordd gydlynol ac effeithiol. I wneud hyn, rhaid gwneud yn siŵr bod gan ein gweithlu y sgiliau sydd eu hangen yn y dyfodol yn ogystal â’n bod yn gyrru arloesedd a chefnogi swyddi newydd.

“Bydd canfyddiadau ein hadolygiad am Arloesedd Digidol yn ein helpu i fanteisio ar y cyfleoedd o’n blaenau a gyrru arloesedd mewn cymunedau ledled Cymru, ac rydw i wrth fy modd bod yr Athro Philip Brown wedi cytuno i arwain y gwaith pwysig hwn.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.