Allai robotiaid â deallusrwydd artiffisial ddatblygu'r arfer o wahaniaethu ar eu pennau eu hunain?

07 Medi 2018

Robots

Nid oes angen lefel uchel o allu gwybyddol i ddangos rhagfarn yn erbyn eraill, a gallai peiriannau â deallusrwydd artiffisial ddangos hynny'n rhwydd, yn ôl ymchwil newydd.

Mae arbenigwyr cyfrifiadureg a seicoleg o Brifysgol Caerdydd ac MIT wedi dangos y gallai grwpiau o beiriannau awtonomaidd ddangos rhagfarn drwy nodi, copïo a dysgu'r ymddygiad hwn oddi wrth ei gilydd.

Mae rhagfarn yn gallu ymddangos fel ffenomenon ddynol yn unig a bod angen gallu gwybyddol i lunio barn am berson neu grŵp penodol, neu eu stereopteipio.

Er bod rhai mathau o algorithmau cyfrifiadur eisoes wedi dangos rhagfarn fel hiliaeth a rhagfarn ar sail rhyw, ar sail yr hyn a ddysgir o gofnodion cyhoeddus a data arall a gynhyrchwyd gan fodau dynol, mae'r gwaith hwn yn dangos y posibilrwydd y bydd deallusrwydd artiffisial yn esblygu eu grwpiau rhagfarnllyd eu hunain.

Mae'r canfyddiadau newydd, sydd wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn Scientific Reports, yn seiliedig ar efelychiadau cyfrifiadurol o'r modd y gall unigolion sydd â rhagfarnau cyffelyb – neu asiantau rhithwir – lunio grŵp a ryngweithio â'i gilydd.

Mewn gêm o gyfaddawdu, mae pob unigolyn yn penderfynu a ddylai gynnig rhodd i rywun o fewn ei grŵp ei hun neu mewn grŵp gwahanol, gan ddibynnu ar enw da'r unigolyn yn ogystal â'i strategaeth ei hun o gynnig rhoddion, sy'n cynnwys ei lefel o ragfarn tuag at y rheini o'r tu allan.

Wrth i'r gem fynd rhagddi ac wrth i uwch-gyfrifiadur gronni miloedd o efelychiadau, mae pob unigolyn yn dysgu strategaethau newydd drwy ddynwared eraill, naill ai o fewn ei grŵp ei hun, neu'r boblogaeth gyfan.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Roger Whitaker o Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Drwy gynnal yr efelychiadau hyn drosodd a throsodd, filoedd ar filoedd o weithiau, rydym yn dechrau deall sut mae rhagfarn yn esblygu, a'r amodau sy'n ei hyrwyddo neu'n ei hatal.

Mae'r canfyddiadau hyn yn ymwneud ag unigolion yn diweddaru eu lefelau rhagfarn drwy gopïo'r rheiny – mewn modd ffafriol – sydd ar eu hennill yn y tymor byr. Felly, mae hynny’n golygu nad oes angen galluoedd gwybyddol uwch o reidrwydd i wneud y penderfyniadau hyn.

"Yn y dyfodol, mae'n ddichonadwy y gallai peiriannau awtonomaidd sydd â'r gallu i uniaethu â gwahaniaethu a chopïo eraill fod yn agored i ffenomena ragfarnllyd a welwn yn y boblogaeth ddynol," ychwanegodd yr Athro Whitaker.

"Mae llawer o'r datblygiadau a welwn ym maes deallusrwydd artiffisial yn ymwneud ag awtonomiaeth a hunanreolaeth, sy'n golygu bod dyfeisiau'n ymddwyn o dan ddylanwad y rheini sydd o'u hamgylch. Mae cerbydau a'r Rhyngrwyd Pethau yn ddwy enghraifft ddiweddar. Mae ein hastudiaeth yn cynnig mewnwelediad damcaniaethol pan mae asiantau wedi'u hefelychu yn gofyn yn gyfnodol i eraill am ryw fath o adnodd."

Yn ddiddorol, daeth i’r amlwg hefyd yn yr astudiaeth ei bod yn anoddach i ragfarn ennill ei phlwyf o dan amodau penodol, sy'n cynnwys is-boblogaethau mwy gwahanol o fewn poblogaeth.

"Gyda nifer cynyddol o is-boblogaethau, gall cynghreiriaid o grwpiau di-ragfarn gydweithredu heb gael eu camddefnyddio. Mae hyn hefyd yn gostwng eu statws lleiafrifol, gan ostwng y tebygolrwydd y bydd rhagfarn yn ennill ei phlwyf. Fodd bynnag, mae angen amgylchiadau lle byddai asiantau’n fwy parod i ryngweithio y tu allan i'w grŵp er mwyn i hynny ddigwydd," dywedodd yr Athro Whitaker wrth dynnu i derfyn.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.