Ewch i’r prif gynnwys

Tŷ Cerdd yn cyhoeddi eu dewisiadau ar gyfer CoDI - datblygu gyrfa cyfansoddwyr

4 Medi 2018

Ty Cerdd CoDI 2018 logo

Mae 14 o gyfansoddwyr Cymreig ac o Gymru wedi cael eu dewis i fod yn rhan o fenter Llwybrau Cyfansoddwyr CoDI newyddTŷ Cerdd, fydd yn golygu eu bod yn cael cynnig cyfleoedd unigryw i ddatblygu gyrfa.

Daeth 65 o geisiadau i law, a dewisodd panel arbenigol gyfansoddwyr ar gyfer cyfleoedd datblygiad creadigol cyflogedig ym meysydd cerddoriaeth Siambr, Electronig a Theatr.

Bydd y cyfansoddwyr a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen Siambr, sy’n cynnwys y cyn-fyfyrwyr o’r Ysgol Gerddoriaeth Nathan Dearden, Daniel-Wyn Jones, Sarah Lianne Lewis a Lucy McPhee, yn gweithio gyda’r cyfansoddwr blaenllaw o Gymru, Lynne Plowman ac Ensemble Berkeley mewn cyfres o weithdai i greu gweithiau newydd i’w perfformio yng nghyfres cerddoriaeth siambr yr Ysgol Gerddoriaeth ym mis Ebrill 2019.

Bydd Poumpak Charuprakorn, myfyriwr PhD o’r Ysgol Gerddoriaeth, a’r cyn-fyfyriwr Richard McReynolds, yn ymuno â’r rhaglen Electronig, ac yn gweithio gyda Cherddorfa Gliniaduron Abertawe a’u cyfansoddwyr Jenn Kirby a Simon Kilshaw mewn cyfres o weithdai fydd yn cyrraedd eu penllanw mewn perfformiad cyhoeddus yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor ym mis Chwefror 2019.

Yn y rhaglen Theatr bydd y cyn-fyfyrwyr o’r Ysgol Gerddoriaeth, David John Roche ac Eloise Gynn, yn dod yn gyfansoddwr preswyl a chyfansoddwr cysgodol yn eu tro gyda chwmni theatr gymunedol Hijinx, Odyssey. Ar hyd hydref 2018 byddan nhw’n datblygu a gwireddu’r gerddoriaeth ar gyfer y cynhyrchiad Nadolig, a fydd yn cael ei lwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm ym mis Rhagfyr 2018.

Rydym ni’n aruthrol falch o’r cyfansoddwyr o blith ein myfyrwyr a’n graddedigion, sy’n cynhyrchu peth o’r gerddoriaeth newydd fwyaf cyffrous yng Nghymru. Mae eu gwaith yn tystio i’n hagwedd at Gyfansoddi yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, lle ceir cydbwysedd rhwng trylwyredd ac arbrofi, gan gynnal cysylltiadau cryf â thraddodiad hir o gefnogi rhagoriaeth ym maes Cyfansoddi Cerddoriaeth.”

Yr Athro Arlene Sierra Professor of Music Composition

Dywedodd Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd: “Mae ymateb cyfansoddwyr i CoDI wedi bod yn eithriadol o frwd - ac mae nifer y ceisiadau wedi peri rhyfeddod i’r paneli.  Mae’r 14 o gyfansoddwyr a ddewiswyd yn cynrychioli amrywiaeth o arddulliau a chefndiroedd, ac rydym ni’n gyffrous ynghylch cychwyn ar y tri phrosiect ym mis Medi.”

Mae Llwybrau Cyfansoddwyr CoDI yn cael ei ariannu trwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a Sefydliad PRS, y mae Tŷ Cerdd yn un o 40 Partner Datblygu Doniau sydd ganddynt ar draws y Deyrnas Unedig.