Ewch i’r prif gynnwys

Cynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn gwarchod siwt ofod Neil Armstrong

29 Gorffennaf 2015

Neil Armstrong space suit being refurbished by Lisa Young
Lisa Young, who graduated with the BSc Conservation of Museum Objects and Archaeology, working on Neil Armstrong's space suit

Cynfyfyriwr o’r Brifysgol wrth ganol yr ymdrechion i warchod siwt ofod Neil Armstrong

Mae cynfyfyriwr o’r Brifysgol wrth ganol y gwaith cadwraeth ar siwt ofod Neil Armstrong. Lansiwyd y gwaith hwn mewn ymgyrch fawr yr wythnos hon, ar ben-blwydd y gamp o gerdded ar y lleuad am y tro cyntaf ym 1969.

Mae'r Smithsonian – casgliad o amgueddfeydd blaenllaw yn yr Unol Daleithiau – wedi datblygu partneriaeth aml-brosiect gyda'r cyllidwr torfol Kickstarter i gefnogi'r gwaith cadwraeth ar siwt ofod Apollo 11 Neil Armstrong yn yr Amgueddfa Awyr a Gofod Cenedlaethol (NASM) yn Washington, D.C.

Bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio hefyd i warchod, digideiddio ac arddangos y siwt ofod, sef gwaith a fydd yn cymryd oddeutu tair blynedd i'w gwblhau.

Mae Lisa Young, a raddiodd gyda BSc mewn Cadwraeth Gwrthrychau Amgueddfa ac Archaeoleg o Brifysgol Caerdydd WHEN?, yn gweithio ar y siwt eiconig. Dywedodd:  "Mae'n fraint gallu cyfrannu'r sgiliau a enillais yn sgîl hyfforddiant cadwraeth yn y Brifysgol, ac rwy'n falch y dyfarnwyd yr arian er mwyn gallu cymryd y camau nesaf i warchod yr eicon cenedlaethol hwn. 

"Mae'n golygu llawer i'r Amgueddfa, i'r cyhoedd ac i'r byd - ac rydym yn teimlo'n gryf iawn ein bod am weld y siwt ofod yn cael ei harddangos eto ar gyfer yr hanner can mlwyddiant yn 2019, i bawb ei gweld."

Datblygwyd diddordeb Lisa mewn deunyddiau modern, a sut maent yn dirywio, ar ôl gweithio yn safleoedd archaeolegol y Rhyfel Cartref yn Virginia, yn enwedig y polymerau cynnar a ddyfeisiwyd yn ystod y cyfnod hwn. Dechreuodd ymchwilio i sut roedd y deunyddiau hyn wedi goroesi yn y ddaear a pham.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae Lisa wedi astudio'r dechnoleg, y beirianneg a'r deunyddiau sy'n gysylltiedig â'r casgliadau awyrofod yn NASM. 

Mewn sgyrsiau gyda churaduron yr Amgueddfa, dysgodd fod y siwtiau gofod cynnar hefyd yn dechrau dangos arwyddion o heneiddio a phydru - yn arbennig y cydrannau rwber. Yn 2000, cafodd yr Amgueddfa grant Save America's Treasures i gyflawni astudiaeth ymchwil ar y siwtiau gofod, ac mae Lisa wedi bod yn astudio'r ffyrdd gorau o'u cynnal a'u cadw byth ers hynny.

Bydd y siwt yn cael ei harddangos dros dro yn yr Amgueddfa ar gyfer hanner can mlwyddiant taith Apollo 11 ym mis Gorffennaf 2019. Bydd yn cael ei harddangos yn barhaol fel canolbwynt yr oriel Destination Moon, y disgwylir iddi agor yn 2020.

Gall unrhyw un ddilyn yr ymgyrch a'r prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol gyda #RebootTheSuit.

Bydd nod Kickstarter yr Amgueddfa Awyr a Gofod o $500,000 yn cynnwys y gost o gynnal a chadw'r siwt ofod, a fydd yn sicrhau ei chadwraeth hirdymor, ac yn galluogi iddi gael ei harddangos am y tro cyntaf ers 2006. Bydd hefyd yn darparu blwch arddangos rheoli hinsawdd arbennig ar gyfer y siwt ofod, a bydd yn caniatáu i'r Smithsonian ddigideiddio'r siwt drwy sganio 3-D, a'i gwneud yn hygyrch i weddill y byd am y tro cyntaf erioed. O'r data digideiddio, bydd yr amgueddfa'n datblygu adnoddau ar-lein ar gyfer archwilio'r siwt gyfan, yn ogystal â deunyddiau addysgol i'w defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth ledled y byd.