Ewch i’r prif gynnwys

Derbynnydd bwrsariaeth ryngwladol yn ymuno â grŵp ymchwil Caerdydd

31 Awst 2018

Chemistry lab

Mae’n dda iawn gennym groesawu derbynnydd Bwrsariaeth Ymchwil Israddedig y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC), Pâmela Bernardini o Brifysgol Ffederalaidd Rio Grande do Sul (UFRGS) ym Mrasil, i’r Ysgol Cemeg.

Pâmela yw un o’r ddau fyfyriwr sydd wedi sicrhau lle ar raglen beilot yr RSC sy’n darparu cyllid i fyfyrwyr israddedig ar gyrsiau gradd achrededig a gynhelir y tu allan i’r DU neu Iwerddon fel y gallant ymgymryd â lleoliad ymchwil mewn Prifysgol achrededig yn y DU neu Iwerddon.

Bydd hi’n gweithio fel rhan o grŵp ymchwil Dr Tim Easun ar brosiect sy’n canolbwyntio ar greu a nodweddu deunyddiau a fydd yn ein helpu i ddeall symudiad moleciwlau nanohylifaidd pan fyddant yn barod i’w defnyddio. Bydd yr ymchwil hon yn archwilio rhai o fecanweithiau ffenomenau sydd eto heb eu hesbonio, gan gynnwys amsugniad a gwahaniad nwyon. Ar ddiwedd y prosiect, mae’r grŵp yn gobeithio creu fframwaith metel-organig ffoto-ymatebol; byddant wedi astudio defnydd nwy y deunydd mewn cyflyrau golau a thywyll fel ei gilydd.

Medd Pâmela: "Roedd bod yn un o ddau enillydd y fwrsariaeth hon yn un o’r pethau gorau a ddigwyddodd imi... Mae’n dda gen i dderbyn cyfle mor anhygoel. Mae wedi rhoi cyfle imi weithio mewn labordy mewn Prifysgol yn y DU ar brosiect pwysig a sylweddol, gyda chefnogaeth gweithwyr proffesiynol gwych fel Dr Timothy Easun.

“Mae cael arbenigwyr fel Tim yn cefnogi fy ymchwil mewn prifysgol ryngwladol yn wych a bydd yn cynyddu gwerth fy ngwaith. Dyna beth sy'n fy nghyffroi cymaint am fynd ar y daith hon.”

Mae Dr Tim Easun yn rhannu cyffro Pâmela: “Mewn ymchwil academaidd, caiff y wyddoniaeth orau ei gwneud mewn cydweithrediad â’r bobl gywir, a gallant ddod o unrhywle yn y byd. Gall rhannu gwybodaeth gydag ymchwilwyr sydd â phersbectif gwahanol ac sy’n byw mewn diwylliant gwahanol ddod â safbwyntiau annisgwyl i’r hyn rydym yn ei wneud yn barod. Gall fod yn drawsnewidiol pan fydd hi’n fater o ddatrys problemau a bathu syniadau newydd.

"Mae hefyd yn gyfle i rannu ein dulliau gyda rhywun na fydd o bosib â’r un lefel i fynediad at gyfarpar ac arbenigedd technegol cysylltiedig ag sydd gennym yn y DU; mae’n gyfle hefyd i’w hyfforddi.

“Os aiff yr ymweliad yn dda, gobeithiwn chwarae rhan yn ysbrydoli cemegydd ifanc i aros yn y proffesiwn, a bydd ymweliadau eraill yn debygol yn y dyfodol o’r un lle. Mae Brasil hefyd yn arbennig o berthnasol i fy mhrifysgol ar hyn o bryd am ein bod yn sefydlu cysylltiadau ffurfiol â sawl sefydliad yno; gallai cael cysylltiadau yn barod fod yn ddefnyddiol yn y tymor canolig neu’r tymor hir.”

Rhannu’r stori hon