Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr wedi'i henwi’n un o'r bobl LGBT+ fwyaf dylanwadol yng Nghymru

24 Awst 2018

Rainbow flag

Mae myfyriwr o Ysgol y Biowyddorau wedi'i chymeradwyo am ei gwaith sy'n mynd i'r afael â materion sy'n wynebu'r gymuned LGBT+.

Enwyd Taz Jones, sy'n astudio Gwyddorau Biolegol (Geneteg) ym Mhrifysgol Caerdydd yn seren newydd ar Restr Binc 2018 Wales Online, cyn dathliadau Penwythnos Mawr Pride Cymru yng Nghaerdydd.

Yn ogystal ag astudio, mae Taz yn Swyddog LGBT+ yn Women's Place ac mae wedi helpu i osod dros naw deg o doiledau niwtral o ran rhywedd ar draws campws y Brifysgol.

Taz Jones - Named on a list of 40 most influential LGBT+ people in Wales

Mae'r myfyriwr geneteg hefyd wedi helpu i drefnu’r Mis Hanes LGBT+ mwyaf mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi’i gynnal, gyda deg digwyddiad yn ystod y mis.

Dywedodd yr Athro Daniela Riccardi, Dirprwy Bennaeth Ysgol y Biowyddorau: "Rydym yn hynod falch o glywed bod Taz wedi'i henwebu ar gyfer y rhestr hon, gan ddathlu'r effaith y mae hi wedi'i chael ar draws campws y Brifysgol.

"Mae ei hymrwymiad at wella tirlun addysg y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr LGBT+ yn wych, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fyfyrwyr a staff.

"Mae wedi bod yn rhan fawr o'n hysgol, yn Gadeirydd Panel Myfyrwyr-Staff, gan helpu i roi llais i fyfyrwyr yn Ysgol y Biowyddorau.

"Mae ei gwaith wedi gwella amgylchedd yr Ysgol a'r Brifysgol ar gyfer y gymuned LGBT+, ac rydym yn falch o weld un o'n myfyrwyr yn cael eu gwobrwyo am ei chyfraniad rhagorol."

Rhannu’r stori hon