Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn croesawu arbenigwyr ynni o Ewrop

28 Gorffennaf 2015

European Energy Experts
Mr Eric Lecomte, Swyddog Polisi, y Comisiwn Ewropeaidd, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Ynni; yr Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop; yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu; a Mr Alan Haigh, Pennaeth Adran, Ynni a Chludiant Horizon 2020, y Comisiwn Ewropeaidd, yr Asiantaeth Arloesedd a Rhwydweithiau (INEA).

Cynrychiolwyr yn ymgynnull mewn digwyddiad 'Vision 2020' i drafod arian ymchwil ac arloesedd yr UE

Mae dros 150 o arbenigwyr ynni a pholisi o Ewrop gyfan wedi ymgynnull yn y Brifysgol i gymryd rhan mewn cyfarfod cyntaf a sefydlwyd i gysylltu'r rheini sy'n cymryd rhan yn rhaglen ariannu Horizon 2020.

Roedd digwyddiad 'Vision 2020', a gynhaliwyd rhwng 22 a 23 Gorffennaf, yn galluogi academyddion, ymchwilwyr, diwydiant, ac awdurdodau lleol o'r sector ynni i gyfnewid eu profiadau o raglen ariannu'r UE, trafod prosiectau cydweithio a chael mynediad at hyfforddiant.

 Roedd y sawl a oedd yn cymryd rhan yn gallu datblygu a meithrin cysylltiadau gyda dau swyddog allweddol o'r Comisiwn Ewropeaidd, Mr Eric Lecomte a Mr Alan Haigh, a fu'n traddodi'r prif areithiau yn ystod y digwyddiad deuddydd a gynhaliwyd yn Adeilad Haydn Ellis ac Adeilad Morgannwg.

Siaradodd Mr Lecomte am yr heriau i ymchwil ac arloesedd wrth fynd i'r afael â nodau strategaeth Undeb Ynni yr UE i ddarparu ynni diogel, cynaliadwy a chystadleuol ar gyfer pob un o ddinasyddion Ewrop, a rôl bwysig prifysgolion, sefydliadau ymchwil a'r diwydiant yn y maes i ddatblygu technolegau newydd i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau, ac i helpu'r newid i fod yn gymdeithas carbon isel. Fe wnaeth hefyd wahodd ymatebion i Ymgynghoriad Cyhoeddus y Comisiwn Ewropeaidd a gafodd ei lansio'n ddiweddar, ar Ddyluniad Marchnad Ynni newydd.

Wrth drafod cyfraddau llwyddo, pwysleisiodd Mr Haigh bod yn rhaid i'r rheini sy'n gwneud cais i Horizon 2020 ymateb yn uniongyrchol i alw penodol am gynigion os ydynt am ennill arian.

Fe wnaeth yr Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop y Brifysgol, a gynhaliodd y cyfarfod deuddydd, sylw ar bwysigrwydd y math hwn o ddigwyddiad i feithrin a thyfu prosiectau cydweithio rhwng prifysgolion, y sector preifat a chyrff cyhoeddus ledled Ewrop.

Lansiwyd 'Vision 2020' yn 2013, ac mae'n llwyfan i gwmnïau a sefydliadau ymchwil sy'n rhan o raglen ariannu Horizon 2020 gysylltu â chyfranogwyr eraill a thrafod ffyrdd o sicrhau'r mwyaf o arian. Ar hyn o bryd, mae gan 'Vision 2020' dros 200 o aelodau o 33 o wledydd Ewropeaidd. 

Fel un o sylfaenwyr 'Vision 2020', mae'r Brifysgol wedi arwain ar y 'clwstwr ynni' oherwydd ei gwaith ymchwil sylweddol i'r maes hwn yn y gorffennol.

Roedd y cyfarfod yr wythnos ddiwethaf yn canolbwyntio ar y rhaglen 'ynni diogel, glân ac effeithlon' a amlinellwyd yn fframwaith Horizon 2020. Dyluniwyd y rhaglen i gefnogi'r newid i system ynni dibynadwy, cynaliadwy a chystadleuol, gan oresgyn nifer o heriau ar yr un pryd, fel adnoddau sy'n mynd yn gynyddol brin, anghenion ynni sy'n tyfu a'r newid yn yr hinsawdd.

Daeth cynrychiolwyr o 28 o brifysgolion ledled Ewrop i'r digwyddiad, ynghyd â chynrychiolwyr o'r diwydiant, Llywodraeth Cymru, Innovate UK ac awdurdodau lleol.

Mae'r Brifysgol wedi ennill 31 o grantiau ariannu unigol hyd yma gan raglen Horizon 2020, sef cyfanswm o €18 miliwn.

Rhannu’r stori hon