Ewch i’r prif gynnwys

Boddhad cyffredinol yn cyrraedd 100%

16 Awst 2018

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn sgôr perffaith (100%) am foddhad cyffredinol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) 2018.

Cyhoeddir Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, sy’n gofyn i israddedigion sgorio eu profiadau yn y Brifysgol ar draws sawl maes thematig (gan gynnwys safon addysgu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol gwahanol), yn flynyddol.

At hynny, sgoriwyd rhwng 90% a 100% mewn chwe maes thematig:

  • Adnoddau Dysgu (100%)
  • Trefniadaeth a Rheolaeth (97.4%)
  • Cymorth Academaidd (94.9%)
  • Cyfleoedd Dysgu (94.9%)
  • Y Dysgu ar fy Nghwrs (94.2%)
  • Llais y Myfyriwr (92.3%)

Meddai Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Rydym yn falch iawn gyda chanlyniadau’r arolwg eleni sydd yn tystio i safon darpariaeth israddedig yr Ysgol. Maent hefyd yn adlewyrchu barn onest ein myfyrwyr am y math o brofiad addysgol ac allgyrsiol, y maent wedi ei fwynhau yn ystod eu hastudiaethau yng Nghaerdydd.

“Mae llais y myfyrwyr yn bwysig iawn i ni – i fesur ein cryfderau a nodi meysydd i wella. Rydym wedi gwneud llawer o waith i gryfhau a datblygu’r fforymau sydd ar gael i fyfyrwyr leisio barn ac rwy’n ddiolchgar i staff yr Ysgol ac aelodau ein paneli myfyrwyr-staff am eu holl waith caled a diflino. Byddwn yn parhau i gydweithio yn agos gyda’n myfyrwyr i sicrhau ein bod yn cynnal y safon ac yn datblygu ymhellach.”

Yn ychwanegol i ddarpariaeth academaidd arloesol, mae Ysgol y Gymraeg yn cynnal nifer o ddigwyddiadau allgyrsiol a chymdeithasol i helpu myfyrwyr ymgartrefu yn yr Ysgol a’r Brifysgol. Mae’r digwyddiadau yma yn cynnwys Stomp flynyddol, nosweithiau cwis a gyrfaoedd, ac eleni, am y tro cyntaf, cynhaliwyd dawns haf i holl gymuned yr Ysgol - o flwyddyn un i PhD.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.