Ewch i’r prif gynnwys

Newid bwlb yng Ngŵyl Ymylol Caeredin

15 Awst 2018

Stand Up Philosophy logo

Yr ŵyl fyd-enwog yn cynnwys elfen athronyddol drwy Athronyddu ar Lwyfan

'Ydych chi wedi clywed yr un am faint o athronwyr mae'n ei gymryd i newid bwlb?'

Mae rhai wedi dweud ei fod yn debyg i’r TED Talks, ond yn llawer mwy o hwyl gan fod Athronyddu ar Lwyfan yn annog digrifwyr mwyaf adnabyddus yr ŵyl ac athronwyr proffesiynol i ddweud beth yw barn ynghylch cwestiynau mawr bywyd mewn gwirionedd.

Mae Dr Dafydd Huw Rees sy’n addysgu athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ymhlith yr academyddion fydd yn camu i’r llwyfan.

Mae athroniaeth wleidyddol ac athroniaeth crefydd ymhlith diddordebau Dr Rees, a "Camgymeriadau" (15 Awst), "Gemau" (16 Awst), "Cariad" (17 Awst) a "Gwir a gwybodaeth" (18 Awst) fydd y themâu o dan sylw ganddo.

Bydd gwahanol bobl yn perfformio bob dydd gan olygu y bydd gan gynulleidfaoedd y cyfle i herio syniadau a newid llif pob sioe.

Mae Athronyddu ar Lwyfan (Stand-Up Philosophy) yn rhad ac am ddim yn y Counting House yn rhan o filoedd o ddigwyddiadau a gynhelir yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2018.

Rhannu’r stori hon