Ewch i’r prif gynnwys

Bryngaer yn y tywod

15 Awst 2018

Sandcastle
Yr Artistiaid Ian Dennis (chwith), Dylan Sutton (canol) a Paul Evans (dde) yn cerflunio'r ‘gaer dywod’ 5m o hyd ym Mae Whitmore, Ynys y Barri. Delwedd © Vivian Paul Thomas 2018

Mae Traeth Bae Whitmore wedi cael mwy na'i siâr o gestyll tywod, ond dim byd fel hyn.

Cynhaliwyd gweithgaredd ailadeiladu bryngaer Oes Haearn Caerau ar draethlin enwog y Barri ddydd Sadwrn, 11 Awst.

Bryngaer Caerau, yng nghymunedau Caerau a Threlái yn Ne Orllewin Caerdydd, yw un o safleoedd archeolegol pwysicaf ond lleiaf adnabyddus y ddinas.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan brosiect Treftadaeth CAER Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Grŵp Archaeoleg Guerilla a gyda chymorth Cydweithfa Stiwdio CAER. Mae'n rhan o ymdrech ehangach gan academyddion yn y Brifysgol i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth ar garreg ein drws.

Dywedodd yr Athro Jacqui Mulville, Pennaeth Archaeoleg a Chadwraeth a Chyfarwyddwr Grŵp Archaeoleg Guerilla: "Adeiladodd pobl Oes yr Haearn strwythur trawiadol wedi'i amgylchynu â ffosydd a llethrau – sy'n ddatganiad anhygoel am eu hunaniaeth.

"Daeth pobl at ei gilydd yn ein digwyddiad i adeiladu bryngaer tywod sy'n talu teyrnged i'n cyndeidiau cynhanesyddol. Roedd hefyd yn gyfle i wneud ffrindiau, cael hwyl, a chreu rhywbeth arbennig."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.