Ewch i’r prif gynnwys

Cael effaith

10 Awst 2018

Man explaining point
Professor Calvin Jones is the author of Cardiff Business School's first ever public value impact report

Bydd Ysgol Fusnes Caerdydd yn lansio ei hadroddiad gwerth ac effaith cyntaf mewn cynhadledd undydd, mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned Cymru, ddydd Gwener 14 Medi 2018.

Yr adroddiad yw’r ymgais gyntaf i fesur gwerth cyhoeddus ehangach yr Ysgol trwy grynhoi ei heffaith economaidd ac amgylcheddol yn ystod blwyddyn academaidd 2016/17.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn tair blynedd o ymrwymiad gan Gaerdydd i gyflawni gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â datblygu economaidd yn sgîl y ffaith mai hi yw’r ysgol fusnes gwerth cyhoeddus gyntaf yn y byd.

Cofnodi, deall a gwella

Dywedodd yr Athro Calvin Jones, awdur yr adroddiad a Chyfarwyddwr darparu gwerth cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Rydym yn sylweddoli bod rhaid inni fesur beth rydym ni’n ceisio’i reoli – a bod angen sicrhau dull cyfannol, neu o leiaf un â diffiniad eang, o fesur ein heffaith o ran gwerth cyhoeddus.

“Mae'r gynhadledd yn gyfle i ni rannu ein hadroddiad gyda chymheiriad o amrywiaeth eang o grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys cyd-academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr busnes...”

“Rydym yn gobeithio am adborth, wrth gwrs, ond yn bwysicach, am syniadau ar gyfer sut gallem ni geisio datblygu ein methodoleg yn y dyfodol wrth i ni geisio cofnodi, deall a gwella ein heffaith ar y gymdeithas a’r amgylchedd.”

Yr Athro Calvin Jones Yr Athro Economeg

Cyd-greu gwerth

Bydd y digwyddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim, hefyd yn annog cynrychiolwyr i bontio’r bwlch rhwng y byd academaidd ac ymarfer trwy drafod sut gall gwerth cyhoeddus gael ei gyd-greu ar lefel leol a byd-eang rhwng gwahanol sefydliadau.

Bydd yr Athro Timo Meynhardt, deilydd Cadair Dr Arend Oetker mewn Seicoleg Busnes ac Arweinyddiaeth yn Ysgol Reolaeth HHL Leipzig i Raddedigion, yn dychwelyd i Gaerdydd i roi cyflwyniad allweddol ar ddyfodol gwerth cyhoeddus.

Dywedodd Dr Nicole Koenig-Lewis, Darllenydd mewn Marchnata yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Mae’r digwyddiad yn nodi diwrnod olaf y 26ain Colocwiwm Rhyngwladol ar Farchnata Perthnasoedd, sy’n canolbwyntio ar Gwerth Cyhoeddus a Marchnata Perthnasoedd:  Cyd-greu Gwerth ar gyfer Cymdeithas...”

“Mae'n briodol ei fod yn darparu llwyfan ar gyfer creu a chyfnewid gwybodaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw ar theori ac ymarfer creu gwerth cyhoeddus.”

Dr Nicole Koenig-Lewis Professor of Marketing

Bydd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ac Adele Blakebrough MBE, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Busnes Cymdeithasol, yn arwain trafodaeth banel ar sut gall sefydliadau fesur creu gwerth.

Yna bydd cyfres o weithdai yn dod â’r broses i ben cyn i Tim Williams, Pennaeth Dinasoedd Awstralasia i ARUP, gynnig yr wybodaeth ddiweddaraf yng nghyfres Ysgol Fusnes Caerdydd o Ddarlithoedd ar Werth Cyhoeddus.

Bydd ei gyflwyniad, o'r enw 'Dinasoedd a busnes', yn esbonio sut mae cwmnïau wedi ailddarganfod dinasoedd a beth mae hyn yn ei olygu i economi Cymru a pholisïau cyhoeddus yng Nghymru.

Cofrestrwch ar gyfer y gynhadledd undydd nawr.

Rhannu’r stori hon