Ewch i’r prif gynnwys

Cynyddu effaith ymchwil

27 Gorffennaf 2015

Cardiff University Vice-Chancellor, Professor Colin Riordan, and National Museum Wales Director General, David Anderson in the National Museum, Cardiff
Cardiff University Vice-Chancellor, Professor Colin Riordan, and National Museum Wales Director General, David Anderson in the National Museum, Cardiff

Mae dau o brif sefydliadau Cymru wedi dod at ei gilydd i helpu i gynyddu effaith eu gwaith

Bydd Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru yn cydweithio mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyffredin.

Gallai hyn gynnwys prosiectau ymchwil ar y cyd, hyfforddiant staff, cynlluniau cyfnewid, rhaglenni cydweithredol o astudiaeth ôl-raddedig a goruchwyliaeth PhD.

Mae'r ddau sefydliad yn credu y bydd cydweithio'n agosach mewn meysydd o arbenigedd cyffredin yn cynyddu effaith eu gwaith ymchwil ac yn arwain at fwy o waith ymchwil.

Bydd cydweithio hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau a darparu adnoddau.

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, a Chyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Mae'r memorandwm yn ymrwymo at bartneriaeth hirdymor "sydd wedi'i chynllunio'n bennaf i hyrwyddo ymchwil a chyflawni effaith gyhoeddus mewn meysydd o gryfder a diddordeb strategol cyffredin, gan wneud gwahaniaeth i Gymru a thu hwnt".

Dywedodd yr Athro Riordan: "Rwy'n credu y bydd sefydlu prosiectau cydweithio a phartneriaethau fel hyn yn ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn un o 100 prifysgol orau'r byd, yn ogystal â dod â manteision ehangach i Gymru.

"Mae cyfuno pŵer y Brifysgol â phŵer un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf y wlad yn rhan bwysig iawn o'n dull strategol a'n hagenda arloesedd.

"Edrychaf ymlaen at weld ffrwyth llafur y bartneriaeth hon, boed drwy brosiectau ymchwil pwysig, cyfleoedd datblygu staff neu rannu cyfleusterau.

Dywedodd Mr Anderson:  "Fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, rydym wedi ymrwymo at ddatblygu ein rhaglenni ymchwil yn y celfyddydau, y gwyddorau a'r dyniaethau, sydd eisoes yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Drwy ymuno â'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn gyda Phrifysgol Caerdydd, gallwn fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd newydd a gweld ffyrdd gwahanol o weithio fel cyfleoedd.”

Mae'r Brifysgol a'r Amgueddfa eisoes yn gweithio gyda'i gilydd, ac maent wedi cael rhywfaint o lwyddiant nodedig gyda gwaith ymchwil ar y cyd.

Bu'r ddau sefydliad yn gweithio ar gloddio crannog (ynys artiffisial) canoloesol cynnar yn Llyn Llan-gors ger Aberhonddu.

Dyma oedd yr unig safle o'i fath yng Nghymru, a datgelodd gwaith yr Amgueddfa a'r Brifysgol mai safle brenhinol canoloesol cynnar ydoedd, yn perthyn i Bennaeth teyrnas fewndirol Brycheiniog.

 

Roedd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru hefyd yn gyfrifol am ddarganfod Ysbrydwlithen Caerdydd – rhywogaeth newydd i'r DU a newydd i wyddoniaeth.

Rhannu’r stori hon