Ewch i’r prif gynnwys

Cyfiawnder yng Nghymru?

6 Awst 2018

Richard Wyn Jones

Allai system gyfiawnder ar wahân i Gymru wella mynediad i gyfiawnder, gostwng troseddu a hyrwyddo adsefydlu?

Mae dyfodol y system gyfiawnder bresennol – system 'Cymru a Lloegr' – yn cael ei gwestiynu wrth i'r gwahaniaethau yng nghyfreithiau'r ddwy wlad gynyddu.

Y llynedd, sefydlodd Llywodraeth Cymru gomisiwn i adolygu'r modd y mae'r system yn gweithredu yng Nghymru.

Amseru perffaith, felly, i Richard Wyn Jones – Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac arbenigwyr ar Gyfraith Cymru, i ystyried y mater yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Caiff Cyfiawnder yng Nghymru ei gynnal gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau 2, ddydd Gwener 10 Awst o hanner dydd ymlaen, a bydd y canlynol yn cymryd rhan:

  • Dr Nerys Llewelyn Jones, aelod o'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a Phartner gydag Agri Advisor
  • Fflur Jones, Partner gyda Darwin Gray

Mae'r Athro Richard Wyn Jones wedi esbonio bod Cymru mewn "sefyllfa afreolaidd" yn rhyngwladol, gan feddu ar weithgor (Llywodraeth Cymru) a deddfwrfa (Cynulliad Cenedlaethol Cymru), ond heb awdurdodaeth na system gyfiawnder cysylltiedig.

“Mae Llywodraeth Cymru a mwyafrif yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi datganoli cyfiawnder, a sefydlu awdurdodaeth i Gymru," meddai.

"Mae hynny, yn ogystal â sefydlu Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru – gyda’r cyn-Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas, yn gadeirydd arno – yn golygu ei bod yn adeg arbennig o amserol i drafod pa mor dda y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd, a'r modd y gallai esblygu a newid yn y dyfodol.

"Yn y cefndir, wrth gwrs, mae gennym benderfyniad llywodraeth y DU i agor y carchar mwyaf ond un yn Ewrop yn Wrecsam, a chynlluniau ar gyfer cawr o garchar arall yn ne Cymru. Mae'r rhain yn ddatblygiadau â goblygiadau o bwys ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar draws y wlad."

Mae gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cyfrannu tuag at y Comisiwn Cyfiawnder.

Mae prosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth y Ganolfan, yn un rhyngddisgyblaethol sy'n dod â gwyddonwyr gwleidyddol, arbenigwyr ym maes y gyfraith gyfansoddiadol a throseddolegwyr ynghyd, er mwyn ymchwilio:

  • gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru
  • y berthynas rhwng polisïau datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli
  • effaith system gyfreithiol unigol 'Cymru a Lloegr'

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Ganolfan ddata ar y system garchardai sy'n ymwneud yn benodol â Chymru a ddatgelodd berfformiad carchardai yng Nghymru, a ble mae carcharorion yn cael eu cadw.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch ragor am beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod.