Ewch i’r prif gynnwys

Honiadau camarweiniol ar rawnfwydydd sy'n llawn siwgr

2 Awst 2018

Bowl of cereal

Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi galw am newidiadau ysgubol i sut mae bwydydd yn cael eu marchnata a sut mae cynhyrchion yn cael eu creu, wrth i ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd ddangos faint o honiadau camarweiniol sydd ar rawnfwydydd llawn siwgr sy'n cael eu hanelu at blant.

Mae dadansoddiad o becynnau 13 o'r grawnfwydydd sy'n gwerthu orau gan Brifysgol Caerdydd, a gyhoeddwyd yn British Dental Journal, wedi dangos:

  • Gan ddefnyddio maint dogn y gwneuthurwr, mae 8 o'r 13 o rawnfwydydd mwyaf poblogaidd yn rhoi dros hanner y siwgr a argymhellir mewn diwrnod i blant rhwng 4 a 6 oed.
  • Mae delweddau ar becynnau'n dangos dogn deirgwaith maint y dogn a argymhellir gan y gwneuthurwyr. Byddai plant sy'n bwyta'r meintiau hyn yn bwyta 12.5% yn fwy na'r lefel ddyddiol a argymhellir mewn un bowlen.
  • Roedd y rhan fwyaf o gynhyrchion yn cynnwys honiadau maethol camarweiniol, gyda'r nod o gynnig 'effaith eurgylch' a gadael cwsmeriaid i feddwl eu bod yn fwy iach nag ydynt mewn gwirionedd, neu anwybyddu rhybuddion eraill. Fe wnaeth 11 o 13 o gynhyrchion honiadau ynglŷn ag un neu fwy o fitaminau, tra roedd 8 o blith 13 yn cael eu hystyried yn eithriadol o uchel o ran cynnwys siwgr.
  • Roedd iaith emosiynol fel 'yummy', 'magical' neu 'meet new friends' yn dominyddu cynhyrchion a oedd wedi eu hanelu at blant, ynghyd ag iaith fel 'quality' i dawelu'r meddwl, a gwerth maethol tybiedig er mwyn apelio at rieni.

Ar hyn o bryd, grawnfwydydd sy'n gwneud y cyfraniad mwyaf namyn un at siwgr rhydd mewn deiet plant, sef 8% ar gyfer plant rhwng 4 a 10 oed a 7% ar gyfer plant yn eu harddegau. Mae astudiaethau blaenorol wedi dod i'r casgliad bod dognau sy'n rhy fawr yn gallu cyfrannu at gwsmeriaid yn ychwanegu 42% yn fwy o rawnfwydydd nag sydd ei angen.

Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi mynegi pryder bod delweddau pecynnau grawnfwydydd yn parhau i fod y tu hwnt i gôd y Pwyllgor Arferion Hysbysebu ar gyfer bwydydd sy'n cynnwys llawer o fraster, halen neu siwgr i blant. Mae wedi galw ar y llywodraeth i gyflwyno newidiadau cadarn i ganllawiau marchnata a thargedau gorfodol ar gyfer lleihau siwgr, fel rhan o'i Strategaeth Gordewdra.

Pydredd dannedd yw'r prif reswm y mae plant rhwng 5 a 9 oed yn cael eu derbyn i'r ysbyty o hyd.

Dywedodd Russ Ladwa, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gwyddoniaeth Cymdeithas Ddeintyddol Prydain: "Brecwast yw pryd bwyd pwysicaf y diwrnod, ond yn anffodus mae marchnatwyr yn camarwain y cyhoedd am beth sy'n cael ei ystyried yn ddewis iachus a maint dogn derbyniol.

"Mae hyn yn gymysgedd gwenwynig, gyda honiadau am 'fanteision maethol' yn ceisio dallu cwsmeriaid i'r cynnwys siwgr, lluniau o feintiau dogn enfawr i annog pobl i orfwyta, ac iaith emosiynol i annog plant i blagio eu rhieni. Mae'r canlyniad yn ffordd sicr o gynyddu pydredd dannedd a gordewdra.

"Mae'r hysbysfyrddau hyn ar ein byrddau brecwast yn dal i fod y tu hwnt i'r rheoliadau hysbysebu ar gyfer marchnata bwydydd llawn siwgr i blant. Nes y bydd y llywodraeth yn cyflwyno rheolau marchnata llymach, ac yn pennu targedau ar gyfer ailddatblygu'r bwydydd, bydd y DU yn methu â chyrraedd ei thargedau lleihau siwgr o bell ffordd."

Dywedodd un o awduron yr astudiaeth, Maria Morgan, Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Yr hyn sy'n sefyll allan i mi yw sut mae meintiau dogn mwy yn cael eu normaleiddio ym Mhrydain, sy'n effeithio ar ordewdra plant, gordewdra oedolion, ac iechyd y geg. Dydw i ddim yn hoffi'r ffaith bod y lluniau'n twyllo rhieni.

"Byddwn i'n croesawu fformiwla newydd ar gyfer y cynhyrchion hyn. Mae angen i ni gydweithio â'r diwydiant yn hyn o beth. Rwy'n pryderu hefyd am labeli bwyd ar ôl Brexit, oherwydd ar hyn o bryd mae labeli bwydydd yn cydymffurfio â rheoliadau'r UE, ac yn y dyfodol rydym am iddynt fod cystal os nad yn well na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd."

Rhannu’r stori hon