Ewch i’r prif gynnwys

Ydy addysg cyfrwng Cymraeg yn effeithio ar ddyheadau?

1 Awst 2018

student writing

Beth yw effaith addysg cyfrwng Cymraeg ar ddyheadau pobl ifanc yng nghymoedd de Cymru?

Bydd Dr Siôn Llewelyn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn trafod y cwestiwn hwn mewn sgwrs ym mhabell Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun 6 Awst (15.00).

Dywedodd: "Ceir rhagdybiaeth fod ysgolion cyfrwng Cymraeg de ddwyrain Cymru'n sefydliadau addysgol hynod lwyddiannus.

"Fodd bynnag, ychydig o ymchwil sydd wedi'i wneud yn edrych ar sut y gallai'r ysgolion hyn ddylanwadu ar uchelgais pobl ifanc at y dyfodol.

"Un o ganfyddiadau'r ymchwil oedd bod gwahaniaethau rhwng dyheadau pobl ifanc a fynychodd yr ysgol cyfrwng Cymraeg a'r ysgol cyfrwng Saesneg.

"Byddaf yn trafod i ba raddau mae mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg yn dylanwadu ar ddyheadau pobl ifanc."

Mae cyflwyniad Dr Jones yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd ganddo i ddyheadau disgyblion ym mlwyddyn olaf addysg orfodol (blwyddyn 11).

Ychwanegodd: "Yn ogystal, mae'n bwysig edrych ar yr effaith y gallai addysg cyfrwng Cymraeg ei gael ar ddyheadau pobl ifanc oherwydd mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ehangu addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o'i strategaeth i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050."

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod ysgolion yn allweddol i gyflawni'r targed yn llwyddiannus.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd rhwng 3-11 Awst.

Rhannu’r stori hon

Dewch draw i'n digwyddiadau sy'n rhedeg drwy'r wythnos mewn mannau ledled y maes.