Ewch i’r prif gynnwys

Beth sydd mewn enw?

31 Gorffennaf 2018

Street sign

Pam mae gan faestref yr Heath yng Nghaerdydd ddau enw Cymraeg sy’n cystadlu â’i gilydd: Y Waun a’r Mynydd Bychan?

A phryd wnaeth un o ffyrdd mwyaf adnabyddus y ddinas gyfnewid ei henw Cymraeg, sy'n golygu llain mwdlyd o dir, am enw Saesneg mwy mawreddog?

Bydd Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn ateb y cwestiynau hyn a rhai eraill mewn cyflwyniad am enwau lleoedd Caerdydd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, un o'r panel o arbenigwyr a luniodd restr o enwau lleoedd Cymraeg safonol yn ddiweddar, fod yr enwau a ddefnyddir yn aml yn dibynnu ar y berthynas rhwng y ddwy iaith ar y pryd.

"Yn hanesyddol, mae’r ddwy iaith wedi amrywio'n gyson ac mae'r enwau yn dyst i hynny, gan arwain at ffurfiau diddorol megis Penhill -lle mae 'pen' a 'hill' yn rhannu’r un ystyr," meddai.

"Mae rhai enwau o'r Gymraeg wedi cael eu disodli'n fwriadol, megis Plwca Lane - mae plwca yn golygu ardal o dir mwdlyd - yn cael ei newid i Castle Road, ac yn ddiweddarach City Road.

"Mae eraill a ddefnyddiwyd gan siaradwyr Cymraeg am amser hir, ond heb gael statws swyddogol, megis Heol y Cawl – Wharton Street yng nghanol y ddinas - bellach wedi eu cydnabod gan yr awdurdodau."

Dr Evans fydd yn cyflwyno Darlith Goffa Hedley Gibbard, wedi'i threfnu gan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Bydd ‘Cyfieithu, cyfaddasu a disodli: Y berthynas rhwng enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yng Nghaerdydd’ yn cael ei chynnal ym Mhabell y Cymdeithasau 1 rhwng 13:00 a 13:45 ddydd Iau 9 Awst 2018.

"Roedd rhai enwau Cymraeg hanesyddol, megis Y Mynydd Bychan (y Waun), fwy neu lai wedi’u anghofio. Felly yng nghanol yr 20fed ganrif crëwyd enw Cymraeg newydd ar gyfer yr ardal trwy gyfieithu Heath i’r Waun," meddai Dr Evans.

"Yn ddiweddarach, dechreuwyd defnyddio’r enw gwreiddiol eto, gan ddisodli Y Waun yn raddol. Ond nid yw wrth fodd pawb."

Un datblygiad diweddar yw creu enwau Cymraeg ar gyfer lleoedd fel Grangetown nad oes ganddynt enwau hanesyddol Cymraeg.

Roedd yr hanesydd diweddar Dr John Davies wedi bathu’r enw Trelluest, sydd bellach yn ennill poblogrwydd.

"Er nad oes statws swyddogol, mae enwau o'r fath yn gynyddol amlwg ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai Dr Foster Evans.

"A chyda maestrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn gyson, mae’r berthynas rhwng y ddwy iaith mewn enwau lleoedd yn bwysicach nag erioed."

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd rhwng 3-11 Awst.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch ragor am beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod.