Ewch i’r prif gynnwys

Oes angen ailwampio'r Cynulliad Cenedlaethol?

27 Gorffennaf 2018

Senedd

A fyddai'r ailwampio cyfansoddiadol mwyaf yn hanes byr y Cynulliad Cenedlaethol yn ei helpu i gyflenwi llywodraeth fwy effeithiol i bobl Cymru?

Bydd yr Athro Laura McAllister, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn ystyried y ffordd orau i gyflawni senedd sy'n gweithio i Gymru mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bu'r Athro Polisi Cyhoeddus yn cadeirio Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol a gasglodd bod angen newidiadau sylweddol.

Roedd argymhellion y panel yn cynnwys cynyddu'r nifer o Aelodau Cynulliad, gostwng yr isafswm oed er mwyn pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad a chyflwyno system bleidleisio fwy cyfrannol.

Ar ôl ystyried y cynigion, yn ddiweddar cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad ei gynlluniau i gyflawni diwygiadau mewn dau gam.

Bydd y cam cyntaf yn edrych ar ostwng yr isafswm oed er mwyn pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad i 16 a newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru.

Yna ceir ail gam yn canolbwyntio ar gynyddu maint y Cynulliad a'r penderfyniad cysylltiedig ar newidiadau posibl i'r system etholiadol.

Bydd yr Athro McAllister yn esbonio pam nad yw'r status quo bellach yn opsiwn ym mhafiliwn y Cymdeithasau 1 ddydd Mawrth 7 Awst (16:00).

Dywedodd: “Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn ein Cynulliad Cenedlaethol ac o'i gwmpas.

"Does dim amser gwell i drafod a yw'r Cynulliad yn senedd sy'n gweithio i Gymru, ac a oes modd gwneud newidiadau cadarnhaol sy'n edrych at y dyfodol.

"Gallai'r newidiadau hyn weld ein Cynulliad yn dod yn fwy cynrychioliadol o'r bobl a'r cymunedau mae'n eu gwasanaethu, gan ei alluogi i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif."

Roedd y panel, a sefydlwyd gan Lywydd y Cynulliad, yn cynnwys grŵp annibynnol o arbenigwyr etholiadol a seneddol.

Mae ei gynigion, sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad, yn golygu y gallai set wahanol iawn o reolau lywodraethu etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.

Cynhelir Eisteddfod 2018 ym Mae Caerdydd rhwng 3 ac 11 Awst.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch ragor am beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod.