Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Graddedigion 2018!

26 Gorffennaf 2018

Daeth staff a myfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd Modern at ei gilydd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf i ddathlu llwyddiannau Graddedigion 2018.

Ar ôl graddio mewn seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant ar 17 Gorffennaf, cafodd graddedigion a'u gwestai gyfle i fwynhau'r Ardd Graddio ar dir Prif Adeilad y Brifysgol lle gweinwyd canapés a chacennau â brand y Brifysgol gyda Prosecco a sudd oren.

Croesawodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Rachael Langford, y gwestai i'r derbyniad a chymeradwyo'r holl raddedigion am eu gwaith caled yn ystod eu blynyddoedd yn astudio yn yr Ysgol.

Ar ôl ei haraith, aeth yr Athro Langford ymlaen i gyflwyno nifer o wobrau i israddedigion, ôl-raddedigion a staff a gafodd eu cydnabod am eu llwyddiannau mewn amrywiaeth o feysydd:

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Flwyddyn Dramor 2016-17
Philippa Bartlett
Vera Opoku
Sarah Clee
Eleana Witt
Louise Ormerod
Malgorzata Brewczyk

Gwobrau Mollie Williams: 
Rhagoriaeth ar gyfer hyfedredd mewn Almaeneg lafar:
Cameron Glew  
Naomi James

Perfformiad gorau mewn papurau iaith Almaeneg yn arholiadau'r Flwyddyn Olaf:
Vera Opoku  
Emma Bateman

Perfformiad gorau gan fyfyriwr yn ei flwyddyn olaf mewn modiwlau dewisol Almaeneg:
Sarah Tipuric
Amy Fligelstone

Gwobr Olwen Reckert: Ysgoloriaeth ar gyfer astudio Sbaeneg ar lefel ôl-raddedig:
Louise Ormerod

Gwobr Remo Catani: perfformiad gorau mewn Eidaleg o'r dechrau:
Megan Edwards

Gwobr Marika Gillespie: traethawd hir israddedig gorau:
Amy Fligelstone
Harry Mayo

Gwobr Sakura:
Cyflwyniad Rhagorol mewn Asesiad Llafar Japaneeg yn y Flwyddyn Olaf:
Kisari Belcher

Gwobrau Ôl-raddedig:
Traethawd Hir Gorau:

Meleri Jenkins

Prosiect Cyfieithu Anodedig Gorau:
Kelsey Hibbitt

Gwobrau Staff
Gwobr Athro Mwyaf Ysbrydoledig

Bob blwyddyn gofynnir i fyfyrwyr enwebu'r athro sydd wedi eu hysbrydoli fwyaf yn ystod eu hamser yn yr Ysgol. Eleni enwebodd 104 o fyfyrwyr aelodau o staff, gyda chydweithwyr ar draws y rhaglenni yn cael eu dathlu.

Y prif enillwyr eleni oedd Heiko Feldner (rhaglen Almaeneg), a Nazaret Perez-Nieto (rhaglen Sbaeneg).

Roedd enwebiadau Heiko yn canmol ei huotledd, ei anogaeth a'i frwdfrydedd, tra roedd enwebiadau Nazaret yn myfyrio ar sut mae hi'n bywiogi ei deunydd addysgu.

Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr
Yn nerbyniad eleni fe wnaethom hefyd ddathlu aelodau staff, Ryan Prout ac Ana Carrasco, a gafodd eu cydnabod yn gynharach eleni yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr.

Arweinydd ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Enillydd: Ryan Prout

Gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwy
r
Enillydd: Ryan Prout

Aelod staff mwyaf ysbrydoledig
Enwebwyd: Ana Carrasco

Gobeithiwn fod yr holl fyfyrwyr a'u teuluoedd wedi mwynhau ein dathliadau a dymunwn pob lwc i raddedigion 2018 yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon