Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr ymchwil yn cymryd rhan mewn her catalysis ledled Ewrop

26 Gorffennaf 2018

European Federation of Catalysis Societies catalysis challenge

Dewiswyd Susana Guadix-Montero a Josh Davies, ill dau'n fyfyrwyr PhD yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, yn yr her catalysis cyntaf a drefnwyd gan Ffederasiwn Cymdeithasau Catalysis Ewrop.

Cafodd y gystadleuaeth ei threfnu i gryfhau'r rhyngweithio rhwng ymchwilwyr ifanc yng nghymuned catalysis Ewrop.

Dewiswyd dim ond dau o'r ymchwilwyr ifanc (myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr/myfyrwyr ôl-ddoethurol gafodd eu PhD ar ôl 1 Gorffennaf 2016) o bob un o'r 25 o genhedloedd yn y Ffederasiwn, a chawsant eu gwahodd i fynd i'r digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol ac Ymchwil Wageningen yn yr Iseldiroedd rhwng 9 ac 11 Gorffennaf 2018.

Cafodd cyfranogwyr eu rhannu'n dimau amlddisgyblaethol ac amlwladol i ysgrifennu cynnig ymchwil a mynd i'r afael â heriau mawr fel tîm. Cyflwynodd y timau eu cynigion i fwrdd o gynrychiolwyr y Ffederasiwn. Dewiswyd y tri chynnig ymchwil gorau, a rhoddwyd gwobr ariannol i aelodau'r tîm.

Roedd tîm Susana'n cynnwys cyfranogwyr o Awstria, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc a Thwrci, ac enillodd y tîm yr ail wobr am eu cynnig ynghylch catalydd heterogenaidd ar gyfer trosi biomas, yn benodol dyluniad catalyddion clwstwr newydd yn seiliedig ar Pt ar gyfer trosi glycerol detholus i 1,3-propanediol gan gynhyrchu H2 in situ.

Dywedodd Susana, sy'n gweithio gyda Dr S. Meenakshisundaram: "Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Yn bersonol, byddwn yn annog pawb fynd."

Mae Ffederasiwn Cymdeithasau Catalysis Ewrop yn sefydliad dielw sy'n cynnwys 25 o Gymdeithasau Catalysis Cenedlaethol Ewrop i hwyluso, cydlynu, a rhesymoli gweithgareddau gwyddonol ym maes catalysis ar lefel ryngwladol.

Rhannu’r stori hon