Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau i ddathlu graddio

24 Gorffennaf 2018

Cynhaliodd Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ei seremoni a derbyniad Graddio ddydd Llun 16 Gorffennaf 2018.

Cynhaliwyd y seremoni Raddio ffurfiol, ar gyfer myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a myfyrwyr PhD, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, a chynhaliwyd derbyniad yn ystod y bore ar lawnt Prif Adeilad eiconig Prifysgol Caerdydd. Roedd hwn yn gyfle i raddedigion ddathlu gyda'i ffrindiau, teulu, a'r gyfadran a chodi gwydr i ddathlu eu llwyddiannau.

Yn ystod y derbyniad , siaradodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Paul Milbourne, am waith caled ac ymrwymiad pob myfyriwr wrth gwblhau ei astudiaethau a chael ei radd.

Cyflwynodd yr Athro Milbourne wobrau eleni ar gyfer y myfyrwyr a berfformiodd orau hefyd. Roedd yr ysgol yn falch o gydnabod:

  • Thomas Roberts a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol;
  • Joshua Winkley a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio;
  • Amy Knox a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Daearyddiaeth (Ddynol);
  • a Reece Harris, y myfyriwr a berfformiodd orau ar draws holl raglenni Meistr yr Ysgol.

Graddio yw un o uchafbwyntiau'r flwyddyn academaidd ar gyfer yr Ysgol, ac mae'n cynnig cyfle i longyfarch myfyrwyr ar eu llwyddiannau, dathlu gyda'r myfyrwyr a'u teuluoedd, a dymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod eu hamser yn yr Ysgol, mae'r holl fyfyrwyr wedi helpu i gyfoethogi a gwella cymuned a diwylliant yr Ysgol. Wrth i'r digwyddiadau Graddio ddod i ben am flwyddyn arall, mae'r Ysgol yn awyddus i atgoffa pawb sy'n graddio y byddant bob amser yn rhan o'r gymuned honno ac yn cael eu gwerthfawrogi fel cynfyfyrwyr. Llongyfarchiadau i Raddedigion 2018!

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.