Ewch i’r prif gynnwys

Barddoniaeth ar Waith

25 Gorffennaf 2018

Ted Hughes poet

20 mlynedd ar ôl Birthday Letters, 8fed Cynhadledd Ryngwladol Ted Hughes yn dod i Gymru

Ugain mlynedd ar ôl cyhoeddi Birthday Letters mae'n bleser gan Brifysgol Caerdydd gynnal wythfed Cynhadledd Ryngwladol Ted Hughes mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ted Hughes.

Bu Ted Hughes (1930 - 1998), un o lenorion gorau'r ugeinfed ganrif, yn Fardd Llawryfog o 1984 tan iddo farw ugain mlynedd yn ôl.  Yn ôl The Times, Ted Hughes oedd y pedwerydd o blith 50 llenor gorau Prydain ers 1945. Roedd yn briod â'r bardd o America, Sylvia Plath.

Mae eleni'n nodi ugain mlwyddiant marwolaeth y bardd a chyhoeddi ei waith olaf Birthday Letters, cyfrol nodedig sy'n cyfeirio at golli ei wraig gyntaf, a hanner can mlwyddiant ei waith mwyaf adnabyddus i blant, The Iron Man.

Dyma'r tro cyntaf i'r gynhadledd ddod i Gymru, a bydd yn cynnwys darlleniad gan y bardd arobryn Gillian Clarke, trydydd Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae Clarke yn un o ffigurau canolog ym marddoniaeth gyfoes Cymru ac mae wedi ennill medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth a Gwobr Wilfred Owen.

Trefnydd y digwyddiad yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Dr Carrie Smith, yw un o gyd-sylfaenwyr y Ted Hughes Society Journal a hi sy'n arwain y drafodaeth bwrdd crwn ar Hughes a'i archifau yn y DU. Dywedodd:

"Rydym ni wrth ein bodd yn croesawu'r grŵp rhyngwladol hwn o arbenigwyr i Gymru yn y flwyddyn sy'n nodi ugain mlynedd ers cyhoeddi Birthday Letters. Rydym ni'n falch i gynnal y gynhadledd mewn cenedl sydd wedi'i thrwytho mewn barddoniaeth a llenyddiaeth wych. Rydym ni'n arbennig o falch i amlygu'r cysylltiadau hyn gyda darlleniad barddoniaeth arbennig gan y cynfyfyriwr Gillian Clarke. Uchafbwynt arall yw sesiwn lawn Dr Juliette Wood sy'n nodi’r cysylltiadau rhwng Hughes a'r Mabinogion."

Bydd y digwyddiad dros dri diwrnod yn cynnwys deuddeg o drafodaethau panel yn trafod pynciau megis Crefydd, Celf a Deunydd, Llenyddiaeth Plant, y Llwyfan a Gwyddoniaeth ac archifau Hughes yn y DU.

Bydd yn cynnwys dros 40 o gyfranwyr o bedwar ban byd gydag ysgolheigion o Asia, Ewrop a Gogledd America.

Mae'r rhai sy’n cymryd rhan yn cynnwys Selma Alispahić (Academi Ffilm Sarajevo ), Pat Aske (Caergrawnt),Di Beddow (Prifysgol Queen Mary), Bella Biddle (Central Saint Martins), Jamie Castell (Caerdydd),  Ruth Crossley (Huddersfield), Krishnendu Das Gupta, C E Dreyer (De Cymru), Steve Ely (Huddersfield), Christine Faunch (Caerwrangon), Peter Fydler, Terry Gifford (Bath Spa), Mick Gowar (Angela Ruskin),  Sayuri Hiwatashi (Meiji), Claas Kazzer, Lorraine Kerslake (Alicante), Gregory Leadbetter (Dinas Birmingham), Gary Leising (Utica), Mimi McKay, Tony Othen (Oriel Greenwich), Lissa Paul (Brock), Felicity Powell (Sheffield), Yvonne Reddick (Central Lancashire), Neil Roberts (Sheffield), James Robinson (Durham), Katherine Robinson (Caergrawnt), Judy Rye (Caerwrangon), Dibakar Sarkar (Ramakrishna Mission), Sara Shahwan (Ain Shams), Martin Shaw (Schumacher), Carrie Smith (Caerdydd), Janne Stigen Drangsholt (Stavanger), Mike Sweeting, Dorottya Tamás (Sussex), Fiona Tomkinson , David Troupes (Cymrawd Rhaglen Ysgrifennu Opera Jerwood), James Underwood (Huddersfield), David Whitley (Caergrawnt) a Mark Wormald (Caergrawnt).

Cynhelir Poetry in the Making, wythfed Cynhadledd Ryngwladol Ted Hughes, yn Neuadd Gregynog yng nghanolbarth Cymru (28-30 Awst).

Rhannu’r stori hon