Ewch i’r prif gynnwys

Ystyried cost rhyfel mwyaf niweidiol Prydain

27 Gorffennaf 2018

Civil War Petition

Bydd cost ddynol Rhyfeloedd Cartref Prydain yn cael ei datgelu mewn prosiect newydd o bwys sy'n cynnwys academyddion o Brifysgolion Caerdydd, Caerlŷr, Nottingham a Southampton.

Mae 'Civil War Petitions: Conflict, Welfare and Memory during and after the English Civil Wars (1642-1710)’, wedi’i ariannu gan y Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Gwyddorau. Ei nod yw edrych ar sut y cafodd y milwyr a anafwyd, gweddwon rhyfel ac aelodau teuluol eraill mewn profedigaeth, afael ar gymorth lles gan y wladwriaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Yng Nghymru a Lloegr, bu farw cyfran uwch o'r boblogaeth yn ystod Rhyfeloedd Cartref Prydain (1642-1651) nag yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd miloedd anafiadau ofnadwy, tra roedd gweddwon, plant amddifad a dibynyddion eraill yn wynebu heriau dyddiol i oroesi yn dilyn profedigaeth.

Maes o law, fe wnaeth y Senedd a’r frenhiniaeth a gafodd ei hadfer wedi hynny, gydnabod bod ganddynt ddyletswydd i ofalu am y milwyr oedd wedi eu clwyfo neu eu lladd tra'n eu gwasanaethu, ac i  wneud yn siŵr y byddai arian ar gael i gefnogi milwyr a anafwyd neu eu teuluoedd mewn profedigaeth. Roedd gan gyn-filwyr, gweddwon a phlant amddifad yr hawl i gyflwyno deiseb am bensiynau ac arian rhodd gan y wladwriaeth. Y deisebau hyn, sydd ar wasgar mewn archifau ar draws y wlad, sydd wrth wraidd gwaith ymchwil y prosiect.

Yng Nghymru, mae dwy storfa sylweddol o ddeisebau gan filwyr a gweddwon o'r Rhyfeloedd Cartref yn hanu o Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon. Mae Dr Lloyd Bowen o Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i'r deunydd Cymraeg, gan eu trawsgrifio a'u dehongli, yn ogystal â chasgliadau sylweddol o siroedd Lloegr megis Swydd Gaer a Sir Gaerhirfryn.

Yn ôl Dr Bowen, sydd eisoes wedi dechrau ar y gwaith ymchwil: "Mae'r prosiect eisoes wedi cynhyrchu rhai darganfyddiadau pwysig yng Nghymru. Rydym eisoes wedi dod o hyd i dros 300 o ddeisebau ar gyfer Sir Ddinbych, gan ddynion a menywod yn ceisio arian ar gyfer cynhaliaeth a chymorth oherwydd anabledd, yn ogystal â llawer iawn o wybodaeth ariannol am y modd y cafodd yr arian hwn ei wario. Bydd deunydd o'r fath yn cynnig dealltwriaeth newydd a phwysig i effaith y Rhyfeloedd Cartref ymysg dynion a menywod cyffredin."

Yn ogystal ag edrych ar y rheini wnaeth a gafodd eu cynorthwyo gan y wladwriaeth, mae'r prosiect hefyd yn archwilio'r modd y gwnaeth y rheini oedd yn rheoli systemau lles ymateb i'r straen o gefnogi miloedd o filwyr a sifiliaid, a hynny’n aml â chyllidebau cyfyngedig. Mae'r berthynas rhwng darparu cymorth, pleidgarwch gwleidyddol ac atgofion amrywiol o wrthdaro, yn llunio maes ymchwil allweddol.

Bydd gwefan Deisebau'r Rhyfel Cartref yn rhoi delweddau a thrawsgrifiadau o'r deisebau a gyflwynwyd gan ddioddefwyr y rhyfel ar gyfer cymorth ariannol, ochr yn ochr â thystysgrifau cymorth a ddyfarnwyd gan ymarferwyr meddygol a phenaethiaid milwrol; bydd hefyd yn cynnwys cofnod o'r miloedd o daliadau a wnaed. Caiff y deunydd archifol hwn ei ryddhau'n rheolaidd ar y wefan drwy gydol hyd y prosiect.

Bydd datblygiad y wefan yn y dyfodol yn cynnwys adran addysgol ar gyfer ysgolion, a bydd Deisebau'r Rhyfel Cartref hefyd yn cefnogi cyfres o weithdai blynyddol i athrawon yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer y Rhyfel Cartref.

Bydd y prosiect yn para tan fis Mehefin 2021.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.