Ewch i’r prif gynnwys

Anghenion poblogaethau a chymdeithas

26 Gorffennaf 2018

Man in front of projected image
Dr Bahman Rostami-Tabar gets conference proceedings underway

Mae academyddion ac ymarferwyr yn y diwydiant wedi bod yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd ynghylch ysgolheictod drwy ddarogan, mewn gweithdy unigryw ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynhaliwyd Darogan er Lles Cymdeithasol, 24ain Gweithdy Sefydliad Rhyngwladol Daroganwyr, yn Ysgol Busnes Caerdydd ar 12-13 Gorffennaf 2018.

Cymdeithas yn hytrach nag elw

Yn draddodiadol, mae ysgolheigion wedi ystyried darogan fel teclyn cynllunio yn bennaf, sy'n helpu sefydliadau i ddefnyddio gwybodaeth hanesyddol a barn i bennu cyfeiriad datblygiadau yn y dyfodol.

Woman in front of projected presentation
Professor Rachel Ashworth introduces delegates to the world's first public value business school

Fodd bynnag, fel y mae trefnydd y gweithdy, Dr Bahman Rostami-Tabar yn esbonio: “Cefais y syniad o gynnal ymchwil ynghylch darogan, lle caiff y pwyslais ei roi ar oblygiadau cymdeithasol yn hytrach nag elw.

“Yn rhan o'r gweithdy, cawsom drafodaeth mewn grŵp lle gofynnais i’r rhai oedd yn cymryd rhan fy helpu i ddiffinio'r math hwn o ddarogan...”

“Felly, mae darogan er lles cymdeithasol yn cynnig dyfodol cynaliadwy i gyfleoedd cyfartal, ac mae’n ymgorffori anghenion poblogaethau a chymdeithas yn hytrach na phwysleisio perfformiad ariannol pur.”

Dr Bahman Rostami-Tabar Reader in Management Science and Business Analytics

“Mae iddo ddwy brif elfen: i) mae'n llywio penderfyniadau na chaiff eu gyrru'n uniongyrchol gan elw ii) ac mae'n rhoi blaenoriaeth i'r rheini sy'n gyffredinol y tu allan i'r sefydliad.”

Mae Dr Rostami-Tabar a chymheiriaid yn parhau i ddatblygu diffiniad cynhwysfawr o ddarogan er lles cymdeithasol. Bydd yn ymddangos ochr yn ochr â chyflwyniadau dethol o'r digwyddiad mewn rhifyn arbennig o'r International Journal of ForecastingForesight: The International Journal of Applied Forecasting.

Daeth ymchwilwyr ac ymarferwyr o 10 gwlad ynghyd ar gyfer y gweithdy, a dyma rai o’r sefydliadau yr oeddent yn eu cynrychioli: Y GIG, Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch, y Cenhedloedd Unedig a Llywodraeth Awstralia.

Caerdydd ar gwch

Yn ogystal â dau ddiwrnod o sgwrsio a thrafod, cafodd y cynadleddwyr gyfle i weld Caerdydd ar gwch, wrth iddynt deithio ar hyd Afon Taf o Barc Bute i Fae Caerdydd, cyn mwynhau cinio cynhadledd yn Old Custom House.

Mae manylion llawn y rhaglen a ffrydiau byw o'r holl gyflwyniadau ar gael ar wefan y gynhadledd.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.