Ewch i’r prif gynnwys

Pawb ar fwrdd llong ymchwil y Brifysgol

23 Gorffennaf 2018

Guiding Light

Gwahoddir ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol i gamu ar fwrdd llong ymchwil Prifysgol Caerdydd fel rhan o amrywiaeth o weithgareddau gwyddoniaeth cyffrous.

Mae ein hymchwilwyr yn troi’r RV Guiding Light yn labordy arnofiol i roi’r cyfle i bobl ddysgu am yr amgylchedd morol a sut mae’n cael ei astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r llong 15m fel arfer yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil morol ac yn cario’r system delweddu sonar ddiweddaraf sy’n mapio gwely’r môr.

Bydd wedi’i hangori ym Mae Caerdydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod i roi’r cyfle i ymwelwyr gael cipolwg ar ei rôl fel llong ymchwil.

Cynhelir Eisteddfod 2018 ym Mae Caerdydd rhwng 3 ac 11 Awst. Dewch draw i ymuno yn yr hwyl, cwrdd â’n staff a rhoi cynnig ar ein gweithgareddau gwyddoniaeth ymarferol.

Eleni mae’r Brifysgol yn noddi’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar y Maes ac yn cyd-drefnu Carnifal y Môr sy’n cael ei gynnal ar y nos Sadwrn.

Gall ymwelwyr â’r pentref gwyddoniaeth ddysgu am fywyd morol a chyfrinachau ein morfeydd heli gan arbenigwyr y Brifysgol fel rhan o Flwyddyn y Môr 2018 Cymru, sy’n rhoi sylw i forlin ragorol y wlad.

Gallwch weld yr anifail byw hiraf yn y byd a dysgu sut mae gwyddonwyr yn ceisio defnyddio ei berthynas o Ddoc Penfro i greu meinweoedd newydd i iachau clwyfau.

Darganfyddwch sut mae creaduriaid y môr yn goleuo’r byd ac yn rhoi meddyginiaethau i ni sy’n lladd firysau a chelloedd canser.

Eisteddfod science

Rydym hefyd yn trefnu teithiau cerdded bywyd gwyllt dyddiol i roi blas i bobl ar y cyfoeth o fywyd gwyllt sy’n bodoli ym Mae Caerdydd.

Bydd Carnifal y Môr yn un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod. Mae’n dechrau am 22:30 ddydd Sadwrn 4 Awst.

Bydd y carnifal cymunedol yn dathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ddinas a chysylltiadau Cymreig â diwylliannau ym mhedwar ban byd.

Mae gwneuthurwyr gwisgoedd Carnifal Butetown yn gweithio gyda’r artist Megan Broadmeadow i greu gwisgoedd disglair y carnifal, wedi’u hysbrydoli gan gydweithrediad cymunedol parhaus gyda gwyddonwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol.

Mae ymchwilwyr y Brifysgol wedi dangos i drefnwyr y carnifal ddelweddau o brotein fflwroleuol a ganfyddir mewn sglefrod môr sydd wedi chwyldroi ein byd microsgopig.

Yn rhyfeddol, gall y protein gael ei ddefnyddio i oleuo, yn llythrennol, ymchwil i weithgarwch celloedd yn y frwydr yn erbyn clefydau fel canser.

Mae parêd y carnifal yn dod i ben o flaen y Senedd lle bydd ffilm gan Megan yn cael ei thaflunio ar sgriniau dŵr enfawr.

Bydd y ffilm yn edrych ar fioamrywiaeth ryfeddol y bywyd morol yn nyfroedd Bae Caerdydd a’r bobl sydd wedi creu’r Gaerdydd fodern.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn bresenoldeb mawr yn yr Eisteddfod eleni a gwahoddir ymwelwyr i amrywiaeth o areithiau, trafodaethau a gweithgareddau yn ein pafiliwn - sydd ar wahân i’r pentref gwyddoniaeth - ger adeilad y Pierhead.

Rydym hefyd wedi noddi coron yr Eisteddfod, gan weithio gyda’r gemydd cyfoes Laura Thomas o Gastell-nedd.

Mae rhaglen lawn Prifysgol Caerdydd i’w gweld yma.