Ewch i’r prif gynnwys

Asideiddio'r cefnforoedd i gyrraedd lefelau na welwyd mewn 14 miliwn o flynyddoedd

23 Gorffennaf 2018

Ocean acidification

Mae cefnforoedd y byd yn debygol o fod yn fwy asidig nag ar unrhyw adeg yn ystod yr 14 miliwn o flynyddoedd diweddar, yw canfyddiad gwyddonwyr.

Yn ôl ymchwil newydd o dan arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd, o dan sefyllfa 'fel ag y mae' o allyriadau carbon deuocsid (CO2), go debyg y bydd asideiddio'r cefnforoedd yn cyrraedd lefelau heb eu tebyg o'r blaen.

Mae asideiddio'r cefnforoedd yn digwydd pan gaiff CO2 o'r atmosffer ei amsugno gan ddŵr y môr, gan arwain at ddŵr mwy asidig gyda pH is.

Caiff oddeutu traean o'r CO2 a ryddheir o losgi glo, olew a nwy ei ymdoddi i mewn i'r cefnforoedd. Ers dechrau'r oes ddiwydiannol, mae'r cefnfor wedi amsugno tua 525 biliwn tunnell o CO2, sy'n gyfwerth ag oddeutu 22 miliwn tunnell y dydd.

Mae'r mewnlifiad sydyn o CO2 i'r cefnforoedd yn fygythiad difrifol i fywyd morol, gyda chregyn rhai anifeiliaid eisoes yn ymdoddi yn nŵr mwy asidig y môr.

Yn eu hastudiaeth newydd, sydd wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Earth and Planetary Science Letters, aeth yr ymchwilwyr ati i ail-greu lefelau asidedd y cefnfor a lefelau CO2 yn yr atmosffer dros y 22 miliwn o flynyddoedd diwethaf.

Gwnaethant hynny drwy astudio ffosiliau creaduriaid morol bach a oedd yn byw ger wyneb y cefnfor ar un adeg, gan ddefnyddio cemeg eu cregyn yn benodol, er mwyn monitro asidedd dŵr y môr y mae creaduriaid yn byw ynddo.

Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, roedd ymchwilwyr wedi gallu gosod eu cofnodion newydd o lefelau pH a CO2 yng nghyd-destun yr ystod o sefyllfaoedd allyriadau carbon yn y dyfodol sy'n cael eu cydnabod gan y Panel Rhynglywodraethol ar gyfer Newid Hinsawdd (IPCC).

O dan sefyllfa 'fel ag y mae' yn y dyfodol, lle rydym yn parhau i allyrru CO2 ar yr un gyfradd ag y gwnawn heddiw, CO2 atmosfferig fyddai bron i 930 rhan fesul miliwn yn y flwyddyn 2100, o'u cymharu ag oddeutu 400 rhan fesul miliwn heddiw.

Yn yr un modd, byddai pH y cefnforoedd yn llai na 7.8 yn 2100, o'i gymharu â pH sydd oddeutu 8.1 ar hyn o bryd. Mae hynny'n hynod o arwyddocaol, am fod y raddfa pH yn logarithmig, sy'n golygu bod cwymp o 0.1 o unedau pH yn unig yn cynrychioli cynnydd o 25% mewn asidedd.

Ni chafodd y lefelau hynny o CO2 atmosfferig ac asidedd cefnforol eu gweld ers y cyfnod Hinsoddol Uchaf Miosen Canolog tua 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd tymheredd byd-eang oddeutu 3°C yn gynhesach nag ydynt ar hyn o bryd, o ganlyniad i gylch daearegol naturiol y Ddaear.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, Dr Sindia Sosdian, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd: "Mae ein cofnod daearegol newydd o asideiddio'r cefnforoedd yn dangos, ar ein llwybr 'fel ag y mae' presennol o allyriadau, y bydd amodau cefnforol yn annhebyg i unrhyw beth y mae ecosystemau morol wedi'i brofi am yr 14 miliwn o flynyddoedd diwethaf."

Ychwanegodd yr Athro Carrie Lear, cyd-awdur yr astudiaeth: "Mae'r pH presennol yn barod, i bob tebyg, yn is nag ar unrhyw adeg yn ystod y 2 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Mae deall beth yn union y mae hynny'n ei olygu ar gyfer ecosystemau morol yn gofyn am astudiaethau tymor hir mewn labordai ac yn y maes, yn ogystal ag arsylwadau ychwanegol o'r cofnodion ffosil."

Ariannwyd yr astudiaeth gan Gyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) y DU, ac roedd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgolion Southampton, St Andrews a California.

Sefydliadau Ymchwil blaenllaw Caerdydd yn cynnig dulliau newydd radical o fynd i'r afael â phroblemau byd-eang pwysig. www.caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.