Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoliaeth ddinesig i’r Eisteddfod

23 Gorffennaf 2018

Eisteddfod 1

Mae yna flas lleol i weithgareddau Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 wrth i’r brifddinas gynnal gŵyl ddiwylliannol fwyaf y wlad.

Cynhelir sgyrsiau a thrafodaethau wedi’u hysbrydoli nid yn unig gan ddiwylliant a hanes Caerdydd, ond hefyd ei chreadigrwydd a’i bywyd gwyllt.

Mae’r pynciau’n cynnwys Caerdydd fel canolfan greadigol a’r berthynas rhwng enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yn y ddinas.

Gall ymwelwyr â’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sydd wedi’i noddi gan y Brifysgol, hefyd ddysgu sut mae ein hymchwil yn meithrin dealltwriaeth o’r amgylchedd morol lleol.

Rydym yn cyd-drefnu Carnifal y Môr ar nos Sadwrn gyntaf yr Eisteddfod, a fydd yn dathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ddinas a chysylltiadau Cymreig â diwylliant ym mhedwar ban byd.

Mae gwisgoedd disglair y carnifal wedi’u hysbrydoli gan gydweithrediad cymunedol parhaus gyda gwyddonwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol.

Gwahoddir ymwelwyr hefyd i ddringo ar fwrdd ein llong ymchwil, RV Guiding Light, a gaiff ei hangori ym Mae Caerdydd i ymwelwyr ymweld â hi dros gyfnod yr Eisteddfod.

Neu os byddai’n well gennych gadw eich traed ar dir sych, beth am gymryd rhan yn ein teithiau tywys i fwynhau cyfoeth o fywyd gwyllt yr ardal?

Dyma’r tro cyntaf ers degawd i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i Gaerdydd.

Ond nid Eisteddfod arferol yw hon, gyda’r ŵyl ym Mae Caerdydd yn defnyddio cymysgedd o adeiladau parhaol eiconig, fel Canolfan y Mileniwm, a strwythurau dros dro.

Mae’r Maes wedi’i leoli o amgylch y Basn Hirgrwn, lle bydd pafiliwn Prifysgol Caerdydd yn cynnal cyfres o sgyrsiau, trafodaethau a gweithgareddau gwych.

Un o’n huchafbwyntiau yw sgwrs boblogaidd y cyfryngau, a fydd unwaith eto’n cynnwys panel o enwau blaenllaw o’r sector yng Nghymru.

Eisteddfod 2

Y pwnc eleni yw dyfodol Caerdydd fel canolfan greadigol yn y DU ac ar lwyfan rhyngwladol. Mae Caerdydd - Dinas Greadigol: Cystadlu ar y Llwyfan Rhyngwladol yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 7 Awst ym mhafiliwn y Brifysgol o 12:00.

Bydd gwasanaeth newyddion digidol cyffrous y Brifysgol, Llais y Maes, yn dychwelyd am y chweched tro, mewn partneriaeth ag ITV Cymru Wales, S4C a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn gweithio unwaith eto ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant i greu cynnwys aml-lwyfan o’r Maes.

Ac mewn sesiwn yn lansio cynllun hyfforddi newyddiaduraeth ITV Cymru Wales ac S4C, bydd y darlledwr a’r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yn trafod ei yrfa a’i gyfres wleidyddol newydd ym mhabell Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 8 Awst (16:00).

Hefyd, bydd Pennaeth Ysgol y Gymraeg y Brifysgol, Dr Dylan Foster Evans, yn cyflwyno sawl araith yn edrych ar hanes diwylliannol ac ieithyddol Caerdydd. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Straeon am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau Eisteddfodau’r gorffennol yn y ddinas (Dydd Sadwrn 4 Awst yn y Pafiliwn Llenyddol o 12:45)
  • Hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd (Dydd Llun 6 Awst yn Shwmae Caerdydd yn y Pierhead o 13:00)
  • Y berthynas rhwng yr iaith Gymraeg, y cof a’r ddinas (Dydd Mercher 8 Awst, Pafiliwn Llenyddol, 11:00)
  • Y berthynas rhwng enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yng Nghaerdydd (Dydd Iau 9 Awst yn Cymdeithasau 1 o 13:00)

Bydd hefyd yn ymddangos gyda dylunydd Coron yr Eisteddfod, Laura Thomas, ac Eirwen Williams o Ysgol y Gymraeg ddydd Mawrth 7 Awst (Cymdeithasau 3, 17:45) i drafod sut crëwyd Coron 2018, a noddir gan y Brifysgol.

Gweithiodd Laura, gemydd cyfoes o Gastell-nedd, gydag aelodau o staff o’r Brifysgol i greu ei dyluniad trawiadol.

Bydd y Goron ar ddangos gyda’r Gadair yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd cyn seremoni’r Coroni yn yr Eisteddfod ddydd Llun 6 Awst.

Eisteddfod 3

Ymysg uchafbwyntiau eraill Prifysgol Caerdydd mae:

  • Bydd Caerdydd Creadigol yn dod â’i fformat Dangos a Dweud i’r Eisteddfod. Bydd yn croesawu siaradwyr o bob rhan o ddiwydiannau creadigol Caerdydd i rannu eu prosiectau cyfredol a’u dyheadau.  Bydd Dr Llion Pryderi Roberts, o Ysgol y Gymraeg, yn croesawu’r beirdd Osian Rhys Jones a Gruffudd Owen a’r awdur Eluned Gramich (ddydd Sadwrn, 4 Awst, Cymdeithasau 2, 16:30). A bydd Dr Keith Chapin, o’r Ysgol Cerddoriaeth, yn cadeirio digwyddiad fydd yn cynnwys y cerddorion Ani Glass a Marged Rhys yn ogystal â’r ddawnswraig Eddie Ladd (dydd Llun, 6 Awst, Pabell Werin, 17:00)
  • Yr Athro Sioned Davies, Ysgol y Gymraeg, yn archwilio Caerdydd y Mabinogion (Dydd Llun 6 Awst, pafiliwn Prifysgol Caerdydd, 14:00)
  • Dr Siôn Llewelyn Jones, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn edrych ar effaith addysg Gymraeg ar ddyheadau pobl ifanc yng nghymoedd de Cymru (Dydd Llun 6 Awst, pafiliwn Prifysgol Caerdydd, 15:00)
  • Yr Athro Emeritws Bill Jones, yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn cyflwyno darlith flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Cymru, allfudo a’r Cymry dramor rhwng y Rhyfeloedd Byd (Dydd Mawrth 7 Awst, pafiliwn Llenyddol, 11:00)
  • Dr Iwan Wyn Rees, Ysgol y Gymraeg, yn archwilio’r hyn sydd wedi ysbrydoli ieithyddion i gasglu a chofnodi tafodieithoedd gwahanol, gan hefyd ddatgelu rhai o ganfyddiadau ei ymchwil diweddar ym Mhatagonia (Dydd Mawrth 7 Awst, Cymdeithasau 3, 13:15)
  • Y Darlledwr Garry Owen o BBC Radio Cymru, Gethin Williams o GIG Cymru a Steffan Lewis AC yn trafod sut y gellir ateb her canser y coluddyn yng Nghymru (Dydd Mawrth 7 Awst, pafiliwn Prifysgol Caerdydd, 14:30)
  • Bydd yr Athro Laura McAllister, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn ystyried a allai’r trawsnewidiad cyfansoddiadol mwyaf yn hanes byr y Cynulliad Cenedlaethol ei helpu i lywodraethu’n fwy effeithiol i bobl Cymru (Dydd Mawrth 7 Awst, Cymdeithasau 1, 16:00)
  • Yr Athro Roger Awan-Scully, Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod gafael Llafur ar Gymru mewn etholiadau cyffredinol yn seiliedig ar ei lyfr newydd (Dydd Mercher 8 Awst, pafiliwn Prifysgol Caerdydd, 13:00)
  • Dr Siwan Rosser, Ysgol y Gymraeg, yn arwain dathliad o gyfraniad Gwasg y Dref Wen at lenyddiaeth plant Cymru (Dydd Iau 9 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd, 14:00)
  • Yr Athro Colin Williams, Ysgol y Gymraeg, yn ystyried dulliau newydd o ymyrryd cymdeithasol i hyrwyddo ieithoedd mewn ffordd holistig (Dydd Iau 9 Awst, Cymdeithasau 4, 14:30)
  • Yr Athro Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn arwain trafodaeth gyda phanel o gyfreithwyr blaenllaw yng Nghymru ar ddyfodol y system gyfiawnder (Dydd Gwener 10 Awst, Cymdeithasau 2, 12:00)
  • Lansiad swyddogol undeb myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, UMCC, gyda Chomisiynydd y Gymraeg Meri Huws fel siaradwr gwadd (Dydd Gwener 10 Awst, pafiliwn Prifysgol Caerdydd, 17:30)

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd rhwng 3-11 Awst.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.