Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn ennill gwobr genedlaethol am draethawd

20 Gorffennaf 2018

Female student writing essay

Mae Rachel Hopkins, myfyriwr MA blwyddyn gyntaf mewn Gwaith Cymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi ennill gwobr genedlaethol am draethawd gan Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol.

Dewiswyd Rachel fel un o bedwar enillydd Cystadleuaeth Aseiniad Traethawd Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol. Roedd y gystadleuaeth yn gwahodd myfyrwyr gwaith cymdeithasol i gyflwyno traethawd ar ‘How social workers can solve austerity’, gyda'r pedwar buddugol yn ennill £500.

Wrth siarad am ei gwobr a'i hangerdd dros waith cymdeithasol, dywedodd Rachel, "Eisoes yn fy ymarfer fel myfyriwr gwaith cymdeithasol, rwyf i wedi gweld llawer iawn o bobl fregus yn dioddef caledi yn bennaf ganlyniad i bolisïau llymder. Rwyf i'n credu bod gan weithwyr cymdeithasol ddyletswydd i godi llais yn erbyn anghydraddoldeb, ac roeddwn yn falch i gael cyfle i wneud hyn drwy'r gystadleuaeth aseiniad.

"Rwyf i wrth fy modd i fod ymhlith yr enillwyr, ac yn awyddus i barhau i herio llymder drwy gydol fy ymarfer yn y dyfodol."

Yn ei thraethawd, ysgrifennodd Rachel "Ni all gweithwyr cymdeithasol fod yn oddefol mewn cyfnodau o lymder. Rhaid i ni ddefnyddio ein pwerau'n gyfrifol ac yn sensitif i ymdrin â'r llinell rhwng mynd i'r afael ag annhegwch strwythurol, a grymuso asiantaeth bersonol y defnyddwyr gwasanaeth rydym ni'n gweithio gyda nhw."

Dywedodd Abyd Quinn Aziz, Cyfarwydd y Rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol am lwyddiant Rachel, "Llongyfarchiadau, ac rwy'n falch iawn ar ran Rachel.  Roeddwn i'n arbennig o hoff o farn Rachel fod rhaid i waith cymdeithasol roi llais i bryderon am effeithiau niweidiol llymder, defnyddio ymarfer yn greadigol i liniaru ei effeithiau cymaint ag y gallwn a chofleidio gwaith cymdeithasol radical ac ymgyrchu yn erbyn llymder."

Dywedodd John McGowan, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol, "Rwyf i wrth fy modd yn gweld y diddordeb yn yr aseiniad hwn ac mae pwnc 'Llymder' i'w weld wedi sbarduno myfyrwyr gwaith cymdeithasol i gyflwyno nifer fawr iawn o geisiadau."

Dywedodd Guy Shennan, cyn gadeirydd Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, ac un o feirniaid y gystadleuaeth, "Roedd ansawdd y ceisiadau yn y gystadleuaeth yn gyson uchel gyda rhai'n rhagorol.

"Roedd hyn yn tystio i safon y myfyrwyr sy'n mynd i'r proffesiwn a pha mor bwysig i'n darpar weithwyr cymdeithasol yw'r frwydr yn erbyn llymder. Roedd marcio'r traethodau hyn yn bleser pur."

Gellir darllen traethawd Rachel ‘How social workers can solve austerity’ ar-lein yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.