Ewch i’r prif gynnwys

Camu'n ôl i'r dyfodol

20 Gorffennaf 2018

Graduate with her parents
Yasmine a'i thad Khaled yn hel atgofion wrth y ffynhonnau yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Mae myfyriwr BSc Rheoli Busnes wedi dilyn yn ôl troed ei thad mewn seremoni raddio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Yasmine Samy newydd gwblhau blwyddyn olaf ei chwrs gradd, 21 mlynedd ar ôl diwrnod mawr ei thad, ac mae'n bwriadu ail-greu rhai o atgofion ei thad o gwmpas campws y ddinas.

Graddiodd yr Athro Khaled Samy - tad Yasmine – ym 1997 ar ôl astudio am radd PhD yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Roedd ei wersi, fel rhai Yasmine, yn cael eu cynnal yn Adeilad Aberconwy'r Brifysgol, sydd bellach yn gartref i Ysgol Busnes Caerdydd.

“Mae gen i rhyw hen luniau o seremoni raddio fy nhad, roeddwn yn bum mis oed ar y pryd ac felly, ynghyd â'm teulu, rydym yn bwriadu tynnu lluniau tebyg yn yr un lleoedd o amgylch yr Ysgol.”

Yasmine Samy Myfyriwr BSc Rheoli Busnes

Ychwanegodd yr Athro Samy: “Roedd gwylio Yasmnie yn graddio yn gwrireddu breuddwyd. Mae Caerdydd yn un o'r prifysgolion gorau yn y byd ac wedi llunio fy ngyrfa, felly rwy'n ffyddiog bod Yasmine yn meddu ar y wybodaeth fydd yn fodd iddi ddechrau ar yrfa lwyddiannus.

“Ni allwn fod yn fwy balch!”

Hanes teuluol a thraddodiad

Yn ôl Dr Jane Lynch, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Y seremonïau graddio yw un o fy hoff achlysuron yn y calendr academaidd. Mae'n adeg arbennig i fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni eu hamcanion, ac ar gyfer eu ffrindiau a'u teuluoedd sydd wedi eu cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau...”

“Mae stori Yasmine yn un galonogol iawn; dathliad cynfyfyrwyr ardderchog o Brifysgol Caerdydd drwy gyfrwng hanes a thraddodiad teuluol.”

Yr Athro Jane Lynch Professor of Procurement

“Rwy’n dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol!”

Mae gan Yasmine hanes o ragoriaeth a chafodd Wobr Cronfa Colonel Page ar gyfer y Myfyriwr Gorau yn ail flwyddyn o'i chwrs gradd Rheoli Busnes yn nigwyddiad gwobrwyo myfyrwyr israddedig yr Ysgol yn 2017.

Woman receiving certificate from man
Yasmine yn casglu'r wobr 'Myfyriwr Gorau' am ei hail flwyddyn ar y rhaglen BSc Rheoli Busnes

Fy ail gartref

Wrth edrych ymlaen i'w chamau nesaf, ychwanegodd Yasmine: “Byddaf yn ddiolchgar hyd byth am yr amser a dreuliais ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd Caerdydd bob amser yn ail gartref i mi.

“O ran y dyfodol, rwy'n bwriadu ymuno â chwmni amlwladol i ennill profiad a, gyda lwc, dychwelyd i astudio MBA Caerdydd.”

Eleni, graddiodd 1,006 o fyfyrwyr yr Ysgol Busnes gyda graddau israddedig, ôl-raddedig a doethuriaeth o Brifysgol Caerdydd.

Gyda phynciau mor amrywiol â marchnata, cysylltiadau cyflogaeth a datblygu economaidd, dewch i wybod os all Ysgol Busnes Caerdydd gynnig cwrs i chi.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.